| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/07/2008 - Sir Ddinbych a'r gymuned fyddar

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych a'u partneriaid yn tynnu sylw ar y gwasanaethau a'r prosiectau sydd ar gael i bobl hefo amhariad ar y clyw yn Sir Ddinbych fel rhan o wythnos ymwybyddiaeth y byddar (5 – 11 Mai 2008).

Mae Cyngor Bobl Fyddar Cymru  / The Wales Council for Deaf People yn darparu hyfforddiant i diwtor, Barbara Gillett, ddysgu sgiliau darllen gwefusau i oedolion hefo nawdd o Strategaeth pobl hŷn Sir Ddinbych. Daw'r hyfforddiant i ben fis Mehefin eleni pryd bydd Cyngor Pobl Fyddar Cymru yn cynghori'r Awdurdod Lleol sut i ddefnyddio'r gwasanaethau tiwtora i roi budd i bobl hefo amhariad clyw yn y gymuned.

Mae Sir Ddinbych wedi cefnogi 2 fyfyriwr BSL (British Sign Language) fel rhan o gynllun BSL Futures Scheme a  weinyddir gan y "Royal National Institute for the Deaf". Mae Lisa Doherty, un myfyriwr BSL, yn gorffen ei lleoliad blwyddyn hefo Tîm Cyswllt Cyntaf Gwasanaethau Cymdeithasol ar 16 Mai.

Gofynnwyd i bobl hŷn sy'n fyddar ac sy'n defnyddio iaith y byddar gymryd rhan  yn BSL Timeline, prosiect partneriaeth a redir gan y gwasanaethau Addysg a Llyfrgelloedd. Nod y prosiect  a noddwyd gan Strategaeth pobl hŷn Sir Ddinbych, yw adolygu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, sy'n annog astudio Hanes ar Gyfnod Allweddol 2 i gyferbynnu cyfnodau o'r 19eg a'r 20fed ganrif a bydd plant yn gallu darllen am brofiadau'r gymuned fyddar.
Gyda'r gyfres mae blychau adnoddau sy'n cael eu treialu mewn dwy Ysgol yn Sir Ddinbych. Cynhwysir eitemau megis hen bres, miwsig a llenyddiaeth o'r cyfnod, a'u cefnogi hefo storiâu "Bywyd real" gan bobl hŷn am eu profiadau yn byw'r adeg hynny. Anogir pobl ifanc ddysgu sgiliau hefo bysedd fel rhan o'r prosiect hwn a chynhwyswyd cardiau sillafu bysedd yn y blychau adnoddau.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch y Tîm Cyswllt Cyntaf 01824 712900 neu e-bostiwch firstcontactteam@denbighshire.gov.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0