Bydd materion Ewropeaidd ar yr agenda i dair o ysgolion yn Sir Ddinbych sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau i nodi Diwrnod Ewrop (Gwener, Mai 9) - union 51 mlynedd ar ôl creu’r Undeb Ewropeaidd.
Bydd myfyrwyr o Ysgol Dinas Bran (Llangollen), Ysgol Brynhyfryd (Rhuthun) ac Uwchysgol y Bendigaid Edward Jones (Y Rhyl) yn ymuno â’u cymheiriaid o Uwchysgol Darland ac Ysgol Sant Christopher ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam am ddau sesiwn o ymwybyddiaeth a drefnwyd gan Europe Direct, canolfan wybodaeth gyhoeddus sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o sefydliadau, polisïau a rhaglenni Ewropeaidd.
Bydd y digwyddiadau, a drefnir gan Europe Direct mewn cydweithrediad â Chyfarwyddiaeth Gyffredinol Cysylltiadau Allanol y Comisiwn Ewropeaidd, yn cynnwys gweithgareddau creadigol yn Uwchysgol Darland yn Yr Orsedd, ac yna ddadl ar faterion Ewropeaidd a gynhelir yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
Bydd Karima Saqui, llysgennad cydweithredu datblygu o Frwsel yn teithio i Ogledd Cymru i gymryd rhan yn y digwyddiadau yn ystod y dydd.
Daw digwyddiadau’r dydd i ben gyda thrafodaeth o gwmpas y bwrdd gyda llysgennad y Comisiwn Ewropeaidd a chynrychiolydd Cymorth Cristnogol i drafod materion fel cymorth dyngarol, hawliau dynol, yr amgylchedd, dyled, iechyd ac addysg.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Caroline Marston, Swyddog Gwybodaeth Ewropeaidd yn Europe Direct, ar 01978 861514 neu e-bost: europedirect@denbighshire.gov.uk

Rhoi adborth ar y tudalen hon