| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/08/2008 - Prif Swyddogion yn Ymweld â Sir Ddinbych

Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn llywyddu ymweliad â’r Rhyl gan ddirprwyaeth o naw o uwch swyddogion milwrol o dri chyfandir ar Fai 6.  

Maent ar gwrs blwyddyn yng Ngholeg Brenhinol Astudiaethau Amddiffyn yn Llundain lle maent yn astudio amddiffyn a diogelwch rhyngwladol ar lefel strategol.  

Mae taith ranbarthol yn rhan o’u hastudiaethau i archwilio, o bersbectif strategol, y safle presennol a’r rhagolygon ar gyfer diogelu a gwella sefydlogrwydd, diogelwch a ffyniant y rhanbarth.

Roedd y cynrychiolwyr yn Y Rhyl yn uwch swyddogion y fyddin o reng Cyrnol neu uwch o’r Aifft, Croatia, Serbia ac Awstria, Capten o Lynges yr Ariannin ac uwch swyddogion o’r Llu Awyr Brenhinol a Byddin Prydain, yn ogystal ag uwch swyddog caffael o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cafwyd cyflwyniadau gan Ian Miller, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, ar y sialensiau sy’n wynebu llywodraeth leol yng Nghymru ac yn lleol a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol; trafododd Roly Schwarz, Swyddog Gorfodi a Gorfodaeth Reoleiddiol, lwyddiant Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych yn gostwng trosedd ac anhrefn, a gydnabyddir i fod y perfformiad sy’n bedwerydd orau yng Nghymru a Lloegr.

Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Paul Smith, Rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen, ar y cynnydd sylweddol a wnaethpwyd gan y Bartneriaeth dan arweiniad y Cyngor Sir i adfywio’r Rhyl.  Aeth Paul â’r cynrychiolwyr ar daith o gwmpas y dref i weld rhai o’r prif ddatblygiadau.
Meddai Ian Miller "Rydym yn freintiedig o gael llywyddu’r ymweliad astudiaeth hwn gan Goleg Brenhinol Astudiaethau Amddiffyn ac o gael rhannu enghreifftiau o’r gwaith da y bu’r cyngor sir a’i bartneriaid yn ei wneud”.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0