| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/12/2008 - Etholiadau - Be sy'n digwydd nesa?

Bu’r cynghorwyr a etholwyd ar Fai 1 yn mynychu diwrnod sefydlu’n ddiweddar yn Neuadd y Sir, Rhuthun lle cawsant eu briffio ar gyfansoddiad y Cyngor a swyddogaethau’r pedair cyfarwyddiaeth a’r materion allweddol sy’n eu hwynebu.  

Arwyddodd y Cynghorwyr ddatganiadau derbyn swydd, yn cynnwys ymrwymiad i lynu at y cod ymddygiad.

Mae’r Cynghorwyr yn y broses o benderfynu pa grŵp gwleidyddol (os o gwbl) yr hoffent ymuno ag o.  Fe ddynodir y seddi yng Nghabinet y Cyngor ac ar bwyllgorau craffu a phwyllgorau eraill mewn cyfrannedd â maint y grwpiau gwleidyddol.

Fe etholir Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn fwrdeistrefol 2008/2009 yng nghyfarfod ffurfiol cyntaf y Cyngor, a gynhelir yn Rhuthun am 11 a.m. dydd Mawrth, Mai 20.

Fe etholir Arweinydd y Cyngor yn y cyfarfod hwnnw hefyd.  Mae’n rhaid cyflwyno enwebiadau ar gyfer swydd yr Arweinydd, wedi ei arwyddo gan ddau gynghorydd arall, cyn 11 a.m. ar ddydd Mawrth, Mai 13.

Yn dilyn ei etholiad/hetholiad, bydd yr Arweinydd yn penodi aelodau eraill y Cabinet.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0