Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i gael eich barn ar strategaeth ddrafft newydd ar gyfer gofalwyr yn y sir.
Mae’r ddogfen ar gael ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk a gellir cael golwg ar gopïau hefyd mewn llyfrgelloedd a siopau un stop yn y sir yn ystod mis Mai a mis Mehefin.
Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sut y dylid cefnogi gofalwyr yn y sir a sicrhau fod gwasanaethau’n cael eu gwella a’u datblygu i gyfarfod â’u hanghenion. Mae’n bwysig fod aelodau’r cyhoedd sydd â chyfrifoldeb gofalu yn cysylltu â’r Cyngor i roi eu barn ar y strategaeth a helpu i ffurfio gwasanaethau gofalwyr ar gyfer y dyfodol.
Dylid cysylltu â Carys Williams, Swyddog Comisiynu ar gyfer Gofalwyr, ar 01824 706655 neu e-bost:carys.williams@sirddinbych.gov.uk i gynnig barn, neu i ofyn am gopi papur o’r strategaeth ddrafft.

Rhoi adborth ar y tudalen hon