Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cadarnhau fod pump o grwpiau gwleidyddol wedi eu ffurfio yn dilyn yr etholiadau ar Fai 1.
Ceidwadol, 18 Aelod Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Dewi Owens (Llanelwy)
Annibynnol, 11 Aelod Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Gwilym Evans (Llandyrnog)
Plaid Cymru, 8 Aelod Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Cefyn Williams (Llandrillo)
Llafur, 7 Aelod Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones (De’r Rhyl)
Annibynnol yn Gyntaf, 3 Aelod Arweinydd y Grŵp: Cynghorydd Rhiannon Hughes (Gallt Melyd)
Dyrannir seddau ar Gabinet y Cyngor mewn cyfrannedd i faint y pum grŵp.
Mae’n rhaid i grŵp gwleidyddol gynnwys dau neu fwy o gynghorwyr. Mae’r Cynghorydd Bobby Feeley, yr unig Gynghorydd sy’n Ddemocrat Rhyddfrydol, wedi ymuno â’r Grŵp Annibynnol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon