| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/13/2008 - Cynllunio un o’r recordiau gorau yng Nghymru

Gan Sir Ddinbych y mae’r record orau o ran nifer yr apeliadau cynllunio a gynhelir.

Dangosodd ffigurau a ryddhawyd gan Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru fod gan Sir Ddinbych y record oedd yn bedwerydd orau yng Nghymru yn 2005/06, gyda 80.8% o hysbysiadau wedi eu cynnal  (21 o’r 26).  

Yn 2006/07, daeth Sir Ddinbych yn ail o holl awdurdodau Cymru, gydag 28 o’r 35 wedi eu cynnal (80.0%) . Dim ond Ceredigion oedd â record well na Sir Ddinbych, er mai gan Sir Ddinbych yr oedd y record orau o holl awdurdodau Gogledd Cymru.

Meddai Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: "Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn adlewyrchu’r ffaith fod y cynghorwyr ar Bwyllgor Cynllunio Sir Ddinbych yn gwneud dewisiadau gwybodus yn seiliedig ar ansawdd y wybodaeth a ddarperir gan swyddogion.  Wrth reswm, caniateir i ymgeiswyr apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor, ond mae ein record yn dangos ein bod yn gwneud y penderfyniad cywir yn y rhan fwyaf o achosion.  Fe allwn fod yn wirioneddol falch o’r record yma."

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0