| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/13/2008 - Swyddfa’r Post

Y Cyngor yn ymateb i benderfyniad Swyddfa’r Post i ymestyn y cyfnod ymgynghori o wythnos

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymateb i wybodaeth fod Swyddfa’r Post wedi penderfynu ymestyn cyfnod yr ymgynghori ar gau swyddfeydd yng Ngogledd Cymru o wythnos.  Bydd y cyfnod ymgynghori’n ymestyn o Orffennaf 29 tan Fedi 15.

Daw’r newyddion ar ôl i’r Cyngor gadarnhau’r cynnig ar Ebrill 8 yn galw ar Swyddfa’r Post i ddileu’r ymgynghoriad tan ar ôl yr haf, er mwyn caniatáu i gynghorau cymuned a buddgyfranogwyr eraill ymateb i’r argymhellion.

Meddai’r Prif Weithredwr, Ian Miller, "Fe dynnwn sylw cynghorau tref a chymuned  ledled sir Ddinbych at yr amserlen newydd.  Fe fyddwn hefyd yn adrodd penderfyniad Swyddfa’r Post i gyfarfod y Cyngor ar Fai 20, ac yno bydd cynghorwyr sir yn gallu rhoi ymateb gwleidyddol i’r estyniad  byr hwn i’r cyfnod ymgynghori."

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0