Cynhaliwyd cyfarfod swyddogol cyntaf Fforwm Cadeiryddion Llywodraethwyr yn Ysgol Santes Brigid yn Ninbych ar Fai 7.
Daeth llawer o gynrychiolwyr o ysgolion cynradd ac uwchradd i’r cyfarfod a gadeiriwyd gan y Canon John Glover, cadeirydd Ysgol Bryn
Hedydd, Y Rhyl, ac Uwchysgol Y Rhyl.
Aelodau eraill y pwyllgor yw:
• Is-gadeirydd - Mark Young, Cadeirydd Ysgol Bryn Clwyd, Llandyrnog
• Trysorydd - Gill Greenland, Cadeirydd Ysgol Mair, Y Rhyl
• Ysgrifennydd - Ann Horobin, Cadeirydd Plant Bach Bodnant, Prestatyn
Prif amcanion y Fforwm yw:
• Hyrwyddo ymarfer gorau mewn llywodraethu yn yr ysgolion o fewn Sir Ddinbych;
• Hyrwyddo partneriaeth ymysg ysgolion y sir;
• Gweithio gyda buddgyfranogwyr i sicrhau adnoddau digonol i ysgolion;
a
• Cynrychioli barn y grŵp ar faterion sy’n berthynol i lywodraethu a rheoli ysgolion a sicrhau adnoddau ysgol a’u cyflwyno i awdurdodau a sefydliadau perthnasol.
Bydd y fforwm yn cynnal cyfarfodydd bob tymor ac yn cysylltu â’r awdurdod addysg lleol. Bydd hefyd yn hyrwyddo ac annog hyfforddiant llywodraethwyr a ddarperir gan Sir Ddinbych.
Meddai John Glover, "Rwy’n awyddus i weld y fforwm yn ymddangos yn gorff cryf gyda llais cryf a fydd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Ddinbych ac a fydd yn cael dylanwad positif yn y sir."
Daeth Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Dysgu Gydol Oes, Mohammed Mehmet, a Phennaeth Gwella Ysgolion, Gareth Wyn Jones, i’r cyfarfod i siarad â’r grŵp a rhannu syniadau ar y cynllun gweithredu’n dilyn archwiliad Estyn a’r ffordd ymlaen.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Hydref 8 yn Swyddfeydd y Cyngor, Rhuthun.

Rhoi adborth ar y tudalen hon