Bydd cyfres o sioeau teithiol yn cael eu cynnal ym mis Mehefin wrth i Gyngor Sir Ddinbych ymgynghori ar ddrafft y Cynllun Datblygu Lleol. Bydd y ddogfen ar gael yn llyfrgelloedd y Sir neu ar wefan y Cyngor o Fehefin 2il.
Hwn yw drafft ymgynghori ffurfiol cyntaf y Cynllun Datblygu Lleol ac yn dilyn ystyriaeth o’r sylwadau a dderbynnir fe gyhoeddir ail ddrafft ymgynghorol y flwyddyn nesaf. Ni chymeradwyir y CDLl yn ffurfiol tan 2011. Y Cynllun Datblygu Unedig fydd y cynllun mabwysiedig ar gyfer Sir Ddinbych hyd nes y caiff y CDLl ei gymeradwyo’n ffurfiol.
Mae’n rhaid i’r CDLl ddarparu cyflenwad digonol o dir i gyfarfod ag anghenion y Cyngor - yn cynnwys arweiniad ar le y bydd tai newydd, cyflogaeth, hamdden a chyfleusterau cymunedol yn debygol o gael eu hadeiladu yn y sir hyd at 2021. Fe ddefnyddir i CDLl i benderfynu pa ddatblygiadau sydd i dderbyn caniatâd cynllunio.
Nod y Cynllun Datblygu Lleol yw diogelu a gwella ansawdd uchel tirwedd y sir, y trefi a rhywogaethau bywyd gwyllt sydd i’w gwarchod, i wneud y defnydd gorau o dir, i uchafu’r defnydd o dir a gafodd ei ddatblygu eisoes mewn lleoliadau hygyrch a chynaliadwy, i leihau allyriad nwyon tŷ gwydr o bob datblygiad newydd ac i gynnal ac adfywhau cymunedau gwledig.
Fe nodwyd wyth o faterion allweddol sy’n wynebu’r sir:
•Yr angen i ddarparu mwy o dai, yn cynnwys tai fforddiadwy i gyfarfod â’r twf a ragwelir yn y boblogaeth
•Yr angen am dwf ychwanegol mewn ardaloedd gwledig i gynnal cyfleusterau a darparu cartrefi i bobl leol
•Yr angen i ddarparu tir cyflogaeth gyda gwasanaethau i wella ffyniant economaidd y Sir. Adeiladu ar lwyddiant Parc Busnes Llanelwy
•Yr angen i wella cynnig manwerthu’r Rhyl a chefnogi swyddogaeth canolfannau trefi a phentrefi eraill
•Cyrchiad i gludiant - i ffwrdd o’r arfordir a choridor yr A55 mae rhwydweithiau cludiant cyhoeddus a phreifat yn gymharol wael. Mae angen hefyd i annog cerdded a beicio ym mhob datblygiad newydd.
•Mae angen gwelliannau seilwaith ar draws y Sir, h.y. ffyrdd, carthffosiaeth a chyfleusterau rheoli gwastraff, mwy o lecynnau agored a chyfleusterau cymunedol
•Mae angen diogelu a gwella ansawdd uchel yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn Sir Ddinbych
•Mae angen rheoli perygl llifogydd a sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn cynyddu perygl llifogydd
Mae dewis o dri Safle Strategol Allweddol ar gyfer datblygu wedi eu nodi, yn Y Rhyl, Bodelwyddan a Llanelwy, gyda phump o ardaloedd eraill â thwf is (Prestatyn, Rhuallt, Corwen, Rhuthun a Dinbych.
Cynhelir sioeau teithiol y CDLl yn y lleoliadau canlynol:
DYDDIAD TREF LLEOLIAD AC AMSER
Llun, 2 Mehefin Y Rhyl Neuadd y Dref (2pm-8pm)
Gwener, 6 Mehefin Prestatyn Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Nant, Prestatyn (2pm-8pm)
Saturday, 7 Mehefin Y Rhyl Neuadd y Dref (9am-12pm)
Llun, 9 Mehefin Llanelwy Llyfrgell y Deon (2pm-8pm)
Mawrth, 10 Mehefin Llanelwy Llyfrgell y Deon (2pm-8pm)
Iau, 12 Mehefin Bodelwyddan Canolfan Gymunedol (3pm-8pm)
Gwener, 13 Mehefin Bodelwyddan Canolfan Gymunedol (2pm-8pm)
Llun, 16 Mehefin Rhuthun Neuadd y Sir (2pm-8pm)
Mawrth, 17 Mehefin Dinbych Neuadd y Dref (2pm-8pm)
Mercher, 18 Mehefin Corwen Pafiliwn (2pm-8pm)
Iau, 19 Mehefin Llangollen Neuadd y Dref (2pm-8pm)
Gwener, 20 Mehefin Rhuddlan Canolfan Gymunedol (2pm-8pm)
Llun, 23 Mehefin Y Rhyl Neuadd y Dref (2pm-8pm)
O Fehefin 2 ymlaen, gall pobl gyrchu gwybodaeth ar wefan Sir Ddinbych: www.denbighshire.gov.uk/ldp neu ymweld â’u llyfrgell leol, Siop Un Stop neu swyddfeydd y cyngor i weld copïau.
Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y ddogfen yw dydd Gwener, Awst 1 am 5pm. Dylid anfon ymatebion at: Ymgynghoriad y Cynllun Datblygu Lleol, Cyngor Sir Ddinbych, Trem Clwyd, Rhuthun, LL15 1QA, drwy ffacs: 01824 708039 neu drwy e-bost: ldp@denbighshire.gov.uk

Rhoi adborth ar y tudalen hon