Mae paneli dehongli newydd yn cael eu gosod mewn tri maes parcio yn Ninbych i geisio gwella cysylltiadau â chanol y dref, y castell a muriau’r dref.
Cafodd mater arwyddion cyfyngedig ei amlygu yng Nghynllun Gweithredu Busnes Dinbych ac yn dilyn ymgynghoriad â Chyngor y Dref a Grŵp Busnes, fe ddatblygwyd prosiect ‘Fforio Dinbych’.
Mae’r paneli dehongli newydd yn cael eu lleoli ym meysydd parcio Vale Street, Factory Ward a’r Castell. Yn ogystal â’r paneli dehongli mae arwyddion bys newydd yn cael eu gosod hefyd yng nghanol y dref sy’n amlygu’r llwybr i’r Castell a Muriau’r Dref.
Dyluniwyd y dehongliad newydd yn y fath ffordd fel ei fod yn rhoi golygfa oddi uchod o’r dref, gan nodi’r pwyntiau gwahanol o ddiddordeb a’r llwybrau o gwmpas y castell a’r coetir gerllaw, gan annog ymwelwyr a thrigolion i ‘Fforio Dinbych’.
Yn ogystal â darlunio’r hyn sydd gan Ddinbych i’w gynnig - mae’r dehongliad hefyd yn cynnwys manylion fod allweddi i Furiau’r Dref i’w cael yn y llyfrgell ac mae hefyd yn dangos y pwynt mynediad i Furiau’r Dref, o’r lle y gall pobl fwynhau golygfeydd ysblennydd dros Ddyffryn Clwyd.
Meddai Jo Douglass, Swyddog Adfywio Gwledig Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’r byrddau dehongli newydd hyn yn dangos o ddifri'r hyn sydd gan Ddinbych i’w gynnig i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd a byddant yn annog pobl i fforio Dinbych, i aros yn hirach ac yn arwain at ddychweliadau i’r ardal, gan ddod a manteision busnes i’r dref.”
Fe ariannwyd y paneli dehongli drwy Leader+ Cadwyn Clwyd, gyda’r arwyddion bys wedi eu hariannu drwy DESSERT, prosiect Amcan Un yr UE.

Rhoi adborth ar y tudalen hon