Bydd bathodynnau glas trwyddedau parcio anabledd ar gael yn fuan mewn Siopau Un Stop fel rhan o fenter newydd a gyflwynir gan Gyngor Sir Ddinbych.
Siop Un Stop Corwen, a leolid yn Neuadd Edeyrnion ar y Sgwâr, fydd y gyntaf i gynnig y gwasanaeth estynedig hwn (o ddydd Llun Mai 19). Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno mewn Siopau Un Stop eraill ar draws y sir yn yr wythnosau i ddod.
Hyd at yn awr, dim ond cyflwyno cais i gael neu i adnewyddu Bathodyn Glas oedd yn bosib mewn Siop Un Stop, ond yn awr bydd yn bosib eu dyrannu ar y safle, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i’r cyhoedd gyrchu’r gwasanaeth yn lleol.
Am wybodaeth bellach am y gwasanaeth Bathodyn Glas, cysylltwch â Thîm Cyswllt Cyntaf y Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01824 712900.

Rhoi adborth ar y tudalen hon