| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
05/16/2008 - Diogelwch Beiciau Modur

Caiff ymdrechion i leihau nifer y trychinebau beiciau modur ar ffyrdd Sir Ddinbych a Wrecsam gan haf o hysbysebion teledu ar ITV Cymru (HTV) gan ddechrau’r wythnos nesaf.

Fe gomisiynwyd yr hysbyseb 30 eiliad i hyrwyddo BeicioDiogel gan Gyngor Sir Ddinbych a chaiff ei gefnogi gan Gyngor Wrecsam.  Fe’i cynhyrchwyd gan Knew Productions sydd wedi eu lleoli yn Wrecsam, mewn partneriaeth â Speake2, yr asiantaeth hysbysebu yng Nghaer.  Caiff yr hysbyseb ei darlledu ar nosweithiau Gwener a Sadwrn drwy’r haf, a’r dangosiad cyntaf ar ITV Cymru nos Wener, Mai 23.

Mae’r teitl ‘Dim mwy o chwarae’ yn adlewyrchu effaith ddifrodus gwrthdrawiadau angheuol ar y teulu a’r rhai a adewir ar ôl ac mae’r galw i weithredu’n ceisio ysbrydoli beicwyr i wella eu sgiliau reidio drwy gysylltu â BeicioDiogel.

Yn 2007 roedd yna 152 o wrthdrawiadau gyda beiciau modur ar draws Gogledd Cymru a chanlyniad 13 ohonyn nhw oedd marwolaeth, roedd 5 o’r rhain yn Sir Ddinbych a 2 yn Wrecsam.  Mae ymchwil yn dangos er bod llawer o feicwyr yn teithio i’r rhanbarth o Ogledd Lloegr, y West Midlands, y Wirral a Chanolbarth Cymru, mae llawer o’r beicwyr sy’n marw ar ein ffyrdd yng Ngogledd Cymru hefyd yn byw yn y rhanbarth.

Mae mewnwelediad yn dangos fod rhwng 70 a 80% o ddamweiniau lleol yn digwydd oherwydd camgymeriad y beiciwr ac mai dynion rhwng 35 a 55 oed yw’r rhai sydd fwyaf mewn peryg, yn nodweddiadol yn eu 40au hwyr a’u 50au cynnar yn reidio beiciau pwerus ar benwythnosau’n unig.

Meddai John Williams, Swyddog Diogelwch Traffig Sir Ddinbych: "Mae damweiniau beiciau modur yn cynyddu.  Yn ogystal â darparu hyfforddiant beiciau modur am ddim ar gyfer trigolion Sir Ddinbych rydym yn gobeithio y bydd yr hysbyseb hon yn gyrru’r maen i’r wal i feicwyr modur i gyd  gymryd gofal ychwanegol pan fyddant allan yn reidio ac i fod yn arbennig o ymwybodol o ddiogelwch ac i gofio am y rheiny sydd gartref yn aros yn bryderus iddyn nhw ddychwelyd yn saff.”

Meddai Saul Peake o Speake2, : “Ein ffocws wrth gynhyrchu’r hysbyseb yma oedd cyfathrebu efo’r dynion hynny nad ydynt yn eu gweld eu hunain fel dioddefwyr posib.  Mae ceisio cael gwared ag argyfwng canol oed ar gefn beic modur sy’n rhy fawr ac yn rhy bwerus ar gyfer eu sgiliau reidio nid yn unig yn blentynnaidd - mae’n beryglus.” 

Nodyn i olygyddion:  Fe’ch gwahoddir i lansiad ‘Dim mwy o chwarae’ yng Nghaffi Ponderosa, Bwlch yr Oernant, Llangollen, am 10am ar ddydd Mawrth, Mai 20. Darperir lluniaeth.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0