| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cynorthwydd gofal cymunedol

Cynorthwydd gofal cymunedol - Lois

Dechreuais weithio i Sir Ddinbych fel Cynorthwyydd Dysgu i blant hefo awtistiaeth yn Ysgol Brondyffryn ym mis Hydref 2004. Cyn hynny, bûm yn astudio Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor, a bûm yn gweithio'n rhan amser yn yr archfarchnad leol. Efallai mai gweithio mewn archfarchnad a ddatblygodd fy niddordeb mewn gweithio hefo pobl.

Symudais o Cynnal Dysgu i secondiad 6 mis fel swyddog Gofal Cymunedol hefo'r tîm anabledd dysgu yn Henllan. Mae'r pecyn arolwg gofal ar gael i ddefnyddwyr y gwasanaeth gan eu Gweithwyr Cymdeithasol .

Roeddwn yn ddigon lwcus i gael estyniad i swydd tros dro nes y daeth swydd cynorthwyydd Gofal Cymunedol arall ar gael ym mis Mawrth 2007 hefo'r tim lle rwy'n gweithio rŵan - y Tim Oedolion Arbenigol. Mae'r tim yn un aml swyddogaeth, yn gweithio hefo oedolion yn bennaf rhwng 18 a 65 sydd ag anabledd corfforol a/neu amhariad ar y synhwyrau.

Mae gen i hefyd ail swydd o fewn y tim fel Trefnydd Deafblind, ac rwy'n gweithio hefo'r Tim Amhariad Gweld o fewn SAT, Sense UK a Deafblind UK yn trefnu gwasanaethau i bobl sy'n dioddef colled deuol ar y synhwyrau. Rwy'n gwir fwynhau gweithio hefo oedolion oherwydd amrediad oed y defnyddwyr gwasanaeth ac amrywiaeth yn y swydd sydd bob amser yn ddiddorol iawn.

Yn ddiweddar rwyf wedi gwneud hyfforddiant hefo RNIB ac RNID yn Lerpwl ar golled synhwyraidd deuol, a byddaf yn dechrau ar NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mai. Rwy'n gobeithio dilyn cwrs hyfforddiant mewn asesiad arbenigol pan fydd dyddiadau ar gael.

Rwy'n teimlo fy mod yn cael edrych ar fy ôl yn dda yn Sir Ddinbych, ac mae'r gweithgaredd yma yn rhywbeth y carwn ei wneud am gyfnod hir. Yn y dyfodol hoffwn hyfforddi fel Gweithiwr Cymdeithasol, ac rwy'n gobeithio y bydd hyfforddiant ar gael ac y gallaf barhau i weithio i Sir Ddinbych.

I unrhyw un sy'n meddwl bod yn Gynorthwyydd Gofal Cymunedol fy nghyngor yw bod raid i chi ddechrau gweithio a bod yn barod i ddysgu - mae cymaint i'w ddysgu bob amser! Mae'n gyfle ardderchog i ddysgu wrth weithio. Yn bennaf oll, mae hi'n swydd sydd wir yn werth chweil.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0