| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Uwch Swyddog Hawliau Lles

Uwch Swyddog Hawliau Lles - Jessica

Fe ddeuthum yn ôl i Ogledd Cymru ar ôl byw yn Hong Kong gyda’m gŵr a’m mab, a phenderfynais ddychwelyd i weithio rhan amser unwaith yr oedd fy mab yn ddwy.  Cychwynnais fy ngyrfa’n gynorthwyydd gweinyddol a derbynnydd yn yr Adran Dai i Gyngor Bwrdeistref Rhuddlan, gan fod gennyf ddiddordeb arbennig yn y Cynllun Amlen yn y West End, Y Rhyl.

Euthum yn ôl i weithio’n llawn amser yn 1986, ac fe argymhellodd ffrind Hawliau Lles i mi, sef rhywbeth nad oeddwn erioed wedi clywed amdano o’r blaen.  Mae’r Uned Hawliau Lles yn uchafu budd-daliadau i bobl ac yn hyrwyddo atal tlodi a chynhwysiad cymdeithasol.

Bûm yn llwyddiannus yn y swydd ac fe euthum ymlaen ar y llwybr gweinyddol fel cynorthwyydd gweinyddol Hawliau Lles am 2 flynedd.  Yna daeth swydd newydd sbon ar gael o fewn y Tîm Hawliau Lles; fe ymgeisiais amdani, a llwyddo i ddod yn Gynorthwyydd Hawliau Lles - y cyntaf erioed.  Mwynheais y swydd gan fod yna gyfle i fynd allan a chyfarfod cleientiaid wrth uchafu eu hincwm gyda cheisiadau sylfaenol am fudd-daliadau. 

Wedi dwy flynedd fe ddeuthum yn Swyddog Hawliau Lles, gan weithio gyda chleientiaid oedd â materion iechyd meddwl.  Roedd gennyf ymdeimlad mawr o fodlonrwydd gwaith, ac yr oedd yn wefr arbennig i allu gweld y gwahaniaeth yr oeddwn yn ei wneud i fywydau ein defnyddwyr gwasanaeth.  Deuthum yn Uwch Swyddog Lles ym mis Tachwedd 2004, swyddogaeth sy’n cynnwys dyletswyddau Dirprwy Reolwr Tîm.

Fel Uwch Swyddog Hawliau Lles, rwy’n dyrannu gwaith i aelodau’r tîm, yn cydlynu Llinell Gymorth Hawliau Lles, yn dirprwyo ar ran y Rheolwr Tîm mewn cyfarfodydd a chynnal baich achosion am hanner yr wythnos.  Rwy’n ymglymedig â nifer o brosiectau, yn cynnwys PARIS (y system gyfrifiadurol newydd), ac rwy’n cydlynu prosiect Cefnogi Pobl o’r enw ‘Beginnings’, sy’n delio ag oedolion sy’n agored i niwed 24 oed a hŷn i’w helpu i gynnal eu tenantiaeth ac atal digartrefedd.  Mae fy nyletswyddau hefyd yn cynnwys rheoli llinell wyth aelod o’r staff, gan weithredu fel pwynt cyswllt rhwng y tîm a’r rheolwr tîm, a chynnig cefnogaeth i’r tîm cyfan.

Rwy’n mwynhau gallu cefnogi aelodau eraill o’r staff wrth gynnal cysylltiad personol gyda’n defnyddwyr gwasanaeth, a gallaf sicrhau fod yna linellau cyswllt da rhwng y staff a’r rheolwr tîm, fel bod morâl y tîm yn aros yn uchel. Cyn creu swydd yr Uwch Swyddog Hawliau Lles, ymgynghorodd y rheolwr tîm â’r tîm ynglŷn â’r hyn y byddent hwy’n dymuno i’r swydd fod, sy’n golygu fod y swydd yn cyflawni  anghenion cefnogaeth a chysylltiadau’r tîm.  Teimlaf fy mod wedi gallu cymhwyso fy mhrofiad o weithio mewn gwahanol swyddi o fewn y tîm hwn i helpu cefnogi aelodau eraill y tîm.

Dros y deunaw mis diwethaf buom yn cynnal peilot o’r Cynllun Cydbwyso Gwaith – Bywyd yn y Tîm Hawliau Lles, ac mae’r hyblygrwydd y mae’n ei gynnig yn help gwirioneddol i’r gweithiwr modern.  Mae’r hyblygrwydd sydd gennym, er enghraifft, gydag amseroedd gwaith craidd yn golygu fod aelodau’r tîm yn cael hwb gwirioneddol mewn morál ac yn cael rhyddid i fwynhau eu gwaith yn ogystal â gallu delio â materion bywyd cartref.

Mae’r rheolwr tîm yn gallu hyrwyddo hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y staff yn dda.  Rhoddwyd cyfle i mi fynychu gwahanol hyfforddiant yn ystod y deng mlynedd y bûm yn gweithio gyda’r Tîm Hawliau Lles, yn cynnwys NVQ 3 Mewn Cyngor ac Arweiniad, Gofal Cymdeithasol Sylfaenol, cyrsiau goruchwyliol a Gwybodaeth Technoleg, hyfforddiant gwerthuso ac rwyf ar fin cychwyn ar Ddiploma ILM mewn Rheolaeth ym mis Medi.  Mae’r hyfforddiant a gefais wedi bod yn ddiguro!

Allwn i byth fynd yn ôl i weithio i gwmni preifat wedi gweithio i Gyngor Sir Ddinbych, gan na allwn i byth gael yr un hyblygrwydd a’r cyfleoedd ardderchog a gefais yn gweithio yma.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0