Mae’r Gwasanaeth Archwilio Dinasyddiaeth yn bartneriaeth rhwng Grŵp Dinasyddiaeth y Swyddfa Gartref a nifer o gynghorau lleol yn Lloegr a Chymru. Bydd y cynghorau sy’n cymryd rhan yn cynnig gwasanaeth opsiynol i’r ymgeiswyr hynny sy’n dymuno manteisio arno. Am dâl rhesymol, bydd y cynghorau dynodedig yn archwilio fod ceisiadau am ddinasyddiaeth Brydeinig wedi eu cwblhau’n gywir a’u bod wedi eu cyflwyno gyda’r holl ddogfennau atodol angenrheidiol fel pasbort, tystysgrifau a phrawf hyfedredd mewn Saesneg llafar.
Yna bydd y ceisiadau a gwblhawyd yn cael eu hanfon ymlaen at y Swyddfa Gartref gan bost dargludiad arbennig. Yna gellir delio â cheisiadau fel hyn, ar gyfartaledd, yn gynt na’r rhai nad ydynt wedi eu cwblhau’n gywir. Bydd y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cadw eu pasbort a dogfennau pwysig eraill yn hytrach na’u hanfon at y Swyddfa Gartref.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fodloni tri phrif faen prawf. Mae’n rhaid bod ganddynt gyfeiriad preswyl priodol yn ddibynnol ar adran y Ddeddf Mewnfudo y maent yn gwneud y cais dani ac mae’n rhaid eu bod wedi derbyn Caniatâd i Aros yn y Deyrnas Unedig ac mae'n rhaid bod ganddynt hyfedredd yn yr iaith Saesneg.
Nid oes raid i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Swyddfa Gartref os dymunwch chi, neu ddefnyddio cyfreithiwr. Fodd bynnag mae’r gwasanaeth archwilio’n caniatáu i chi gadw eich pasbort ac nid yw’n cyfyngu ar eich cynlluniau teithio tra bod eich cais yn cael ei ystyried gan y Swyddfa Gartref.
Yng Ngogledd Cymru, y cyngor lleol a all eich helpu gyda’r gwasanaeth hwn yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Gellir cysylltu â nhw ar 01492 574043. Cysylltwch â nhw’n uniongyrchol i gael gwybod mwy am y drefn a’r taliadau.

Rhoi adborth ar y tudalen hon