I briodi mewn Eglwys neu adeilad crefyddol rhaid i chi sicrhau bod eich lleoliad dewisol wedi'i drwyddedu i Briodasau a'ch bod yn cyfarfod y cymwysterau preswylio a roddwyd. Cofiwch nad yw'r Rhybudd o Briodas ond yn berthnasol i'r lleoliad a nodir arno ac os byddwch yn newid eich meddwl rhaid rhoi rhybudd o'r newydd a thalu am hynny.
Dethlir Priodasau Crefyddol yn ôl traddodiad eich enwad. I briodi yn Eglwys Cymru neu Eglwys Lloegr bydd y Ficer fel arfer yn cyhoeddi'r briodas (Banns). Mewn rhai amgylchiadau bydd angen trwydded arbennig gan yr Archesgob, ac mewn rhai achosion gall y Gweinidog ofyn i chi roi rhybudd o Briodas yn y Swyddfa Gofrestru yn lle Cyhoeddi Priodas (Banns); ac os hynny rhaid cael llythyr gan y Gweinidog i gytuno i wneud eich Seremoni Priodas.
Os ydych yn priodi mewn unrhyw eglwys neu adeilad crefyddol arall, rhaid i chi roi rhybudd yn Swyddfa Gofrestru'r Dosbarth lle rydych yn byw. Rhaid i chi wedyn fynd a'r awdurdod i briodi o'r swyddfa honno at y Gweinidog fydd yn eich priodi.
Yn wahanol i briodasau dinesig ni fedrwch briodi ond yn y Dosbarth lle mae un neu'r ddau ohonoch yn byw. Gallwch, fodd bynnag, briodi mewn Eglwys tu allan i'r Dosbarth lle rydych yn byw os yw un neu'r ddau ohonoch yn addoli fel arfer yn yr adeilad neu os nad oes adeilad o'ch enwad crefyddol yn eich ardal. Bydd angen llythyr gan y Gweinidog fydd yn gwneud y seremoni.
Bydd gan yr adeilad crefyddol fel arfer berson awdurdodedig i ysgrifennu'r gofrestr, ond os nad oes, rhaid i chi gysylltu â'r Swyddfa Gofrestru leol i drefnu presenoldeb Cofrestrydd cyn gynted ag y gwyddoch ddyddiad ac amser y gwasanaeth. Codir ffi am y presenoldeb hwnnw.
| Swyddfa Gofrestru'r Rhyl Morfa Clwyd Marsh Road Y Rhyl Sir Ddinbych LL18 2AT Ffôn: 01745 366610 | Swyddfa Gofrestru Rhuthun Neuadd y Dref Rhuthun Ffordd Wynnstay Rhuthun Sir Ddinbych LL15 1YN Ffôn: 01824 706187 |

Rhoi adborth ar y tudalen hon