| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
dyletswydd cydraddoldeb rhyw

dyletswydd cydraddoldeb rhyw

Ym mis Ebrill 2007 daw'r newid mwyaf i ddeddfwriaeth cydraddoldeb rhyw i rym ers cyflwyno deddf gwahaniaethu rhyw 30 mlynedd yn ôl - sef dyletswyddau cydraddoldeb rhyw.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cynhyrchu ei gynllun cydraddoldeb rhyw a'i gynllun gweithredu am 2007-2010.

Mae' r cynllun cydraddoldeb rhyw yn rhan o gynllun cydraddoldeb integredig Cyngor Sir Ddinbych. Ynddo rydym yn amlinellu ein blaenoriaethau rhyw a'r camau a gymerir i'w cyflawni.

Yn lle dibynnu ar unigolion yn gwneud cwynion am wahaniaethu rhyw mae'r ddyletswydd yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithlon ar Awdurdodau cyhoeddus i ddangos eu bod yn trin dynion a merched yn deg. 

Mae'r ddyletswydd angen i Awdurdodau cyhoeddus ganfod a thaclo gwahaniaethu, atal poendod, a sicrhau bod eu gwaith yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng dynion a merched. Mae angen prif lif rhyw h.y. adeiladu cydraddoldeb rhyw i mewn i'r busnes craidd.

Bydd y ddyletswydd yn effeithio ar lunio polisi, gwasanaethau cyhoeddus ac arferion cyflogaeth a bydd yn hyrwyddo Awdurdodau Lleol i edrych ar gwestiynau megis: -

• Beth yw'r materion gwahanol a blaenoriaethau i ferched a dynion sy'n defnyddio'r gwasanaethau a ddarparwn? 
• A oes rhai gwasanaethau sy'n cael eu gwneud yn fwy effeithlon gan ddynion yn unig neu gan ferched yn unig?
• A fydd merched neu ddynion yn osgoi defnyddio gwasanaethau oherwydd diffyg gofal plant neu amgylchedd sydd ddim yn ddiogel neu ddim yn un croesawus?

Mae hon yn ddogfen fyw gaiff ei haddasu yn ôl y gofyn os bydd yr adroddiad yn ôl gan y cyhoedd, defnyddwyr y gwasanaethau a staff, neu o fonitro'r cynllun gan nodi unrhyw anghyfartaledd mewn cydraddoldeb.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0