Mae lwfans tai lleol yn ffordd newydd o gyfrifo Budd-daliadau Tai i denantiaid sy'n rhentu llety gan dirfeddiannwr preifat; mae'n golygu budd-daliadau ac mae'n dibynnu ar eich modd i dalu. Mae hefyd yn effeithio ar Denantiaid sydd eisoes yn cael budd-daliadau Tai sy'n symud i Dy ar rent gan dirfeddiannwr preifat.
Cyflwynir lwfans tai lleol ar 7 Ebrill, 2008. Os ydych yn byw mewn lletyaeth sy'n eiddo i'r Cyngor neu dai cymdeithasol, ni fydd y lwfans tai lleol yn effeithio arnoch chi.
Trwy'r adran rent a elwir yn Salop does dim annedd o fewn Sir Ddinbych sy'n dod i mewn i'r ardaloedd rhent yma.
Mae'r tabl isod yn dangos lefelau rhent tai lleol Sir Ddinbych.
Nifer o ystafelloedd | Gogledd Clwyd | Delyn | Wrecsam a de Clwyd | Salop |
Rhannu ystafell | £50.00 | £55.00 | £55.00 | £68.54 |
1 Llofft | £80.00 | £80.77 | £81.93 | £94.62 |
2 Lloft | £103.85 | £109.62 | £106.15 | £114.23 |
3 Lloft | £121.15 | £131.54 | £126.92 | £133.85 |
4 Lloft | £150.00 | £173.08 | £160.38 | £183.46 |
5 Lloft | £150.00 | £181.15 | £184.62 | £228.31 |
Cod Post yn Ardal | LL16, LL17, LL18, L19,L22 | CH7, CH8 | LL11, LL12, Ll15, LL20,LL21 |
|
I gyfrifo pa lwfans tai lleol sy'n gymwys i chi bydd angen cyfrifo sawl llofft a gewch fel a ganlyn :
Cewch un llofft i :
bob oedolyn sengl neu gwpwl (priod neu ddi briod)
unrhyw oedolion arall 16 oed a throsodd
unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
unrhyw ddau blentyn yr un rhyw o dan 16 oed
unrhyw blentyn arall.
Caiff hawlwyr sengl o dan 25 oed hawl i gyfradd ystafell a rennir .
Cofiwch y gallwch dderbyn mwyafswm o £15 fel lwfans tai lleol dros eich taliadau rhent.
Hefyd mae'r lwfans tai lleol yn dibynnu ar eich gallu i dalu felly rhaid ystyried eich incwm, cynilion a'r bobl sy'n byw hefo chi cyn penderfynu ar eich hawl.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn cysylltwch y swyddfa.

Rhoi adborth ar y tudalen hon