Deddf Hawliau Dynol 1998
Mae hawliau dynol yn ei hanfod yn golygu trin pobl yn deg, hefo parch ac urddas. Gosodir goblygiadau cyrff cyhoeddus yn Neddf Hawliau Dynol 1998. Mae perthynas hanfodol rhwng cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol, ac yn wir mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a elwir yn Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a grëwyd gan ddeddf cydraddoldeb 2006 yn adlewyrchu’r angen i ystyried hawliau dynol yn ogystal â materion cydraddoldeb. Trwy weithredu agwedd hawliau dynol, gall Cyngor Sir Ddinbych sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau a dinasyddion wrth galon dylunio a chyflwyno gwasanaeth.
Cyflwynwyd Deddf Hawliau Dynol 1998 i ymestyn amrediad o hawliau a amlinellwyd yn gyntaf yn y confensiwn hawliau dynol Ewropeaidd, i ymgorffori rhai o'r hawliau hyn o fewn cyfraith y DU.
Sut mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn gweithio?
Mae'n gwneud yn glir, cyn belled â phosibl, y dylai llysoedd y DU weithredu'r gyfraith sy'n gydnaws a'r hawliau o dan y confensiwn hawliau dynol.
Mae'n rhoi oblygiad ar Awdurdodau cyhoeddus i weithredu mewn ffordd sy'n gydnaws a'r confensiwn.
Os bydd rhywun yn dymuno dod ag achos, bydd rhaid dangos bod Awdurdod cyhoeddus wedi torri'r confensiwn a'r amddiffyniad yw bod yr Awdurdod, neu bu yr Awdurdod, yn cadw at ddeddf seneddol. Yn y rhan fwyaf o achosion mae hyn yn golygu y bydd achosion yn gofyn am arolwg barnwriaethol ar benderfyniadau neu weithrediad.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dangos ei ymroddiad i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 trwy fabwysiadu’r gwerthoedd canlynol: -
Undeb
Rydym i gyd yn gweithio i'r un mudiad. Rydym ni fel cynghorwyr a staff yn ceisio dangos hyn yn y ffordd rydym yn ymddwyn ac yn gwasanaethu ein cymunedau. Ein motto yw “Unwn i wneud da” (We unite to do good) ac rydym yn gweithio’n glos, yn cydweithio'n fodlon ac yn cefnogi cydweithwyr ar draws y mudiad, heb wahaniaeth i ba gyfarwyddiaeth, gwasanaeth neu dim y maent yn gweithio. Mae ein cwsmeriaid a'n cymunedau yn disgwyl i'r mudiad weithredu fel corff sengl heb wneud unrhyw wahaniaeth rhwng unrhyw gyfarwyddiaeth neu wasanaeth â'i gilydd.
Balchder
Ein nod yw creu synnwyr o falchder mewn gweithio i'n mudiad. Dylem fod yn falch o'r gwaith a wnawn a'n cyflawniad fel mudiad. Mae'r sialens yn fawr ond er gwaethaf ein hanawsterau, ein nod yw rhannu uchelgais o gael y canlyniadau gorau.
Parch
Ein nod yw trin pobl yn gyfartal a theg, deall eu barn a'u cred os yw’n wahanol i'n barn ni. Ein nod yw gwrando ar lais ein cymuned, ystyried eu barn ac ymateb yn briodol.
Credinedd
Fel Cynghorwyr a staff, ein nod yw rheoli ein hunain a rhoi'r perfformiad gorau, gweithredu safon uchel o ymddygiad a chyflwyno delwedd bositif o Sir Ddinbych. Ein nod yw bod yn realistig hefo ein cydweithwyr a'n dinasyddion am ein cyflawniad a'r sialens o'n blaenau a bod yn agored a gonest wrth roi gwybodaeth.

Rhoi adborth ar y tudalen hon