Pleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy
Does dim rhaid i chi fynd i orsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais. Gallwch ddewis un or opsiynau canlynol:
Gallwch ofyn i'ch papurau pleidleisio gael eu hanfon atoch i'ch cartref i chi eu cwblhau a'u hanfon yn ol (pleidlais post)
Gallwch benodi rhywun arall rydych yn ymddiried ynddo i fynd i'r orsaf bleidleisio a phleidleisio ar eich rhan (pleidlais trwy ddirprwy)
Am ffurflen gais cysylltwch a'r Swyddfa Etholiadol

Rhoi adborth ar y tudalen hon