Llywodraeth Gorfforaethol
Mae Llywodraeth Gorfforaethol yn system y byddwn ni (y Cyngor Sir) yn ei ddefnyddio i gyfeirio a rheoli ein swyddogaeth a chysylltu â'n cymunedau.
O fewn Cyngor Sir Ddinbych, rhaid i ni allu dangos ein bod yn cadw at yr egwyddorion o lywodraeth dda :-
- Agored: wrth ddelio hefo a chyfathrebu hefo pob rhan o'r gymuned i annog pobl i gymryd rhan.
- Cywirdeb: wrth ddelio hefo perthynas effeithlon a phartneriaeth hefo asiantau cyhoeddus eraill a'r sectorau preifat a gwirfoddol.
- Cyfrifoldeb: tuag at bawb sydd â diddordeb (neu "stakeholders") am ein perfformiad ac effeithlonrwydd cyflwyno gwasanaethau a gwneud defnydd cynaliadwy o adnoddau.
Rhaid i'r Cyngor hefyd fonitro ac arolygu ei systemau a phrosesau i wneud yn siŵr eu bod yn effeithlon a chyfredol.
Mae'r Cod Llywodraeth Gorfforaethol yn dangos ein hymroddiad i'r egwyddorion hyn gan osod allan sut fyddwn yn cyfarfod yr ymroddiad hwn. Mae'r cod Llywodraeth Gorfforaethol ar gael i chi ei lawr lwytho isod.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn ffoniwch neu e-bostiwch ni os gwelwch yn dda.

Rhoi adborth ar y tudalen hon