Mae meddyginiaeth modern yn wahanol iawn i’r feddyginiaeth a oedd yn cael ei ddefnyddio gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae gennym well syniad erbyn hyn o beth sy’n achosi salwch ac felly syniad gwell o sut i’w drin. Erbyn hyn fe wyddom am germau a pha mor bwysig yw cadw’n lân. Ond ers i’r Rhufeiniaid a’u syniadau ynghylch iechyd cyhoeddus ein gadael mae pobl wedi byw o dan amodau dychrynllyd, a oedd yn helpu lledaenu afiechyd.
Fe welwch isod wedi ei gyfieithu i’r Gymraeg ran o adroddiad yr ymchwiliad swyddogol i amodau yn Llangollen ym 1853 yn dilyn achos o'r dwymyn goch a'r frech wen. Does dim rhyfedd fod salwch yn rhemp yn Llangollen yr adeg hynny.
Fe welais gwt gyda 3 mochyn mewn ystafell fyw, ffrynt, tŷ yn Sgwâr y Ffatri, gyda chwech o bobl yn byw yn yr ystafell. Roedd y cwt yn y gilfach rhwng y simdde a’r wal ac roedd y tail yno’n hanner llathen o ddyfnder ….. Mewn tŷ arall yn Heol yr Eglwys fe welais geffyl mewn seler o dan yr ystafell fyw ble roedd claf yn gaeth i’w wely, roedd casgliad anferth o dail a budreddi yn stabl y seler.
Doedd strydoedd cul y dref yn ddim ond draeniau agored ble roedd ysbwriel a budreddi’r tai yn cael ei daflu. Yn y strydoedd lle’r oedd toiledau’n brin, roedden nhw’n cael eu defnyddio’n aml fel toiledau eu hunain yn ogystal ag yn rhywle i daflu tail moch.’ – DD/DM/927/182
Dechreuodd Deddf Iechyd Cyhoeddus 1848 wella amodau’r trefi ac felly helpu hefyd i rwystro afiechyd rhag lledaenu, ond ni ellid rhwystro afiechydon a’u gwella’n iawn tan i Louis Pasteur ddarganfod germau ddiwedd 1880au. Cyn y darganfyddiad hwn, roedd gan y rhan fwyaf o bobl gredoau ofergoelus ynghylch achos salwch.
Un gred gyffredin oedd bod y corff dynol yn debyg i’r planedau, ac wedi’u creu o’r pedair elfen: aer, tân, dŵr a daear. Roedd y pedair elfen hyn wedi’u cysylltu â phedwar hylif y corff ( y pedwar anian): gwaed, bustl melyn, fflem a bustl du, a’r gred oedd bod yn rhaid i bob un o’r rhain fod mewn cydbwysedd i gael iechyd da. Felly, er mwyn gwella person gwael, byddai un ‘anian’ yn cael ei dynnu er mwyn adfer y cydbwysedd, gan ddefnyddio pethau megis gelod i sugno gwaed.
Roedd rhai’n meddwl fod salwch yn gosb gan Dduw ac felly’n gweddïo neu fynd ar bererindod i gael iachâd. Adeg y Pla Du (14eg Ganrif) aeth rhai mor bell â chwipio'u hunain i ddangos pa mor edifar oeddyn nhw am eu pechodau.
Roedd y meddyginiaeth a ddefnyddid yn aml yn rhai chwedlonol / llysieuol ac er eu bod yn helpu weithiau, yn aml roedden nhw’n cynnwys rhai pethau nad oedd yn gweithio neu hyd yn oed yn gwneud y claf yn salach!
Cliciwch ar y PDF ar waelod y dudalen i weld tudalen o lyfr presgripsiwn fferyllydd o’r 19eg ganrif. Tybed a allwch chi ddarllen y cynhwysion ar gyfer y meddyginiaeth (a’r hyn a ddefnyddid gartref). Oes unrhyw rai o’r cynhwysion yn ymddangos yn od? Pam ydych chi’n meddwl fod sebon a thriog yn gynhwysion mewn ‘Cheap pills for Quacks’ (roedd ‘quack’ yn berson a oedd yn esgus fod yn feddyg)? Allwch chi ganfod ‘Gwaed y Ddraig’? Beth ydych chi’n feddwl yw hynny? Ac a ydi’r staen yn rhywfaint ohono a gafodd ei dywallt ar y llyfr?!
Cliciwch ar y PDF ‘Transcription’ ar waelod y dudalen i’ch helpu gydag unrhyw eiriau sy’n anodd eu darllen ac am eglurhad ar rai o’r cynhwysion.
Ar ôl darganfod germau, cafodd meddyginiaeth a oedd yn gweithio eu canfod a'u defnyddio’n gyflym iawn. Cafodd rhai afiechydon eu difa’n llwyr o ganlyniad i hynny, megis y frech wen. Aeth rhai eraill yn llawer prinnach, megis y diciâu, ac eraill ddim yn lladd cymaint megis y frech goch. Heddiw, rydym yn hollol gyfarwydd â chymryd meddyginiaeth at salwch ac ers y 20fed ganrif mae llawer o ddewis a’r darparwyr meddygol yn cystadlu â’i gilydd.
Mae’r ddelwedd ar y dudalen hon yn hysbyseb o The North Wales Guardian, 1922 (DD/G/1999) ar gyfer math o feddyginiaeth sy’n dal yn boblogaidd. Tybed a yw’r rhain yr un rhai â’r ‘tabledi Beecham’s’ sydd ar werth heddiw? Allwch chi feddwl am fathau eraill o feddyginiaeth? Os felly, ydych chi’n meddwl eu bod wedi cael eu cynhyrchu ers llawer o flynyddoedd? Ydych chi’n meddwl fod meddyginaieth wedi newid llawer ers cael eu cynhyrchu gyntaf?
Mae meddyginiaeth yn newid ac yn datblygu’n barhaus: o driniaethau a meddyginaieth ofergoelus a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i’r rhai sydd wedi’u profi’n wyddonol heddiw, a hyd yn oed i rai newydd a gwell yn y dyfodol (mae llawer o afiechydon nad oes iachâd iddyn nhw ar hyn o bryd ac mae rhai o'r rhai y gellir eu gwella’n dod yn imiwn i rai meddyginiaethau); ac felly mae hanes meddyginiaeth yn parhau.
Am ragor o wybodaeth ar hanes meddyginiaeth, dilynwch y cysylltiadau ar y dudalen hon.


Rhoi adborth ar y tudalen hon