Datganiad
Nantclwyd y Dre, Rhuthun
Manylion
Cyfeiriad: Stryd y Castell, Rhuthun LL15 1DP
Rhif ffôn: 01824 709822
Ffacs: 01824 708258
E-bostiwch: nantclwydydre@sirddinbych.gov.uk
Gwefan: www.denbighshire.gov.uk
Cludiant
• Does gan Nantclwyd y Dre mo'i faes parcio ei hun. Mae meysydd parcio gerllaw (yn ôl trefn pellter) sgwâr y dref, Dog Lane, Stryd y Farchnad, a Stryd Clwyd. Rhaid talu am barcio.
• Mae Nantclwyd y Dre yn daith fer o sgwâr y dref, ar ochr dde Stryd y Castell wrth gerdded i ffwrdd o'r sgwâr. Mae canol tref Rhuthun ar fryn ac mae rhai o'r strydoedd sy'n arwain i ganol y dref yn serth.
Y brif fynedfa / Derbynfa
• Ty ar agor ddydd Gwener - dydd Sul 10am - 5pm (derbyniad olaf 4.15pm) Ebrill hyd ddiwedd mis Medi: Oedolion £3.60, plant £2.50, Grŵp o 15 neu fwy £2.90, teulu £9.00.
• Adeilad Rhestredig Gradd 1*.
• Mynedfa fflat i lawr un ochr yr adeilad hefo drws llydan at y ddesg docynnau hefo dau doiled ger llaw. Man mân-werthu bach.
• Mynedfa fflat i waelod y tŷ - cam bychan i'r ystafell ddehongli gyntaf - ramp ar gael, fflat trwodd i'r ail ystafell ddehongli. Ramp isel yn arwain i lawr i'r Brif Neuadd (ystafell o'r 1940au). Dau gam i lawr i'r ystafelloedd parlwr.
• Lloriau uchaf agored trwy risiau a thaith aml gyfrwng/cyflwyniad yn y dderbynfa yn unig.
• Mynediad i'r tŷ haf i fyny'r grisiau.
Gerddi
• Gerddi yn agored am ddim yn ystod yr oriau agor.
• Tirwedd restredig.
• Y buarth yn fflat hefo cerrig cadarn ond ychydig yn anwastad. Cam bach i lawr i'r lawnt a llwybr cadarn / llydan.
Lleiniau cyhoeddus eraill
• Toiledau deuryw ger y dderbynfa.
Cyfleusterau eraill
• Arweinlyfr ar gael.
• Rhestr o ystafelloedd y tŷ.
• Meinciau o gylch yr ardd.
• Toiledau am ddim
• Hysbysebir gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn mewn rhestri ac ar y wefan.
• Croeso i gŵn cymorth.
Nodweddion synhwyraidd
• Drws mewnol hefo paneli cain o bren, llenni traddodiadol a gwely / lliain bwrdd a llawr naturiol.
• Llawr mewnol (mat brwyn) hefo oglau naturiol amlwg.
• Mae'r buarth yn cynnwys perlysiau ac oglau blodau.
• Clywir cân adar ar rai adegau o'r flwyddyn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon