Prosiect Cartrefi Gwag

Mae Prosiect Cartrefi Gwag Sir Ddinbych wedi cychwyn gyda’r nod o droi eiddo gwag yn gartrefi fforddiadwy, da.
Drwy gydnabod gymaint o wastraff yw cael tua 1,800 o eiddo gwag yn y sir ar adeg pan mae tai fforddiadwy mor brin, mae’r Awdurdod Lleol a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru wedi uno mewn partneriaeth arloesol i gyflogi Swyddog Cartrefi Gwag.
Mae’r ddau sefydliad wedi’u hymrwymo i sicrhau y bydd y bartneriaeth yn llwyddiant. Ac os felly, daw hwn yn brosiect tymor hir y gallai awdurdodau eraill ei ddefnyddio fel templed.
Bydd y Swyddog Cartrefi Gwag yn sefydlu basdata o eiddo gwag, yn datblygu strategaeth ar gyfer eu hadfer ac yn gweithio gyda pherchnogion a chymunedau lleol i wireddu’r cyfle o’u datblygu.
Bydd y gwaith hwn nid yn unig yn cael gwared ar yr hagrwch mae tai gwag yn gallu ei achosi ond dylai hefyd gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy trwy drefniadau prydlesu neu brynu.
Am fanylion pellach cysylltwch â:Wendy Barnsley Swyddog Cartrefi Gwag Cymdeithas Tai Gogledd Cymru / Cyngor Sir Ddinbych
E-bost – wendy.barnsley@nwha.org.uk / wendy.barnsley@sirddinbych.gov.uk
Ffon – 01492 563281 / 01824 706350

Rhoi adborth ar y tudalen hon