Asiantaeth Datblygu Cymunedol
Uned D, Station House
Bodfor St
Y Rhyl
LL18 1AT
Teleffon:
01745 360260
Ffacs:
01745 360801
Oriau agor
Dydd Llun - dydd Gwener 9.30am - 3.30pm
Rydym ers rhai blynyddoedd wedi denu arian allanol trwy weithio hefo gwahanol bartneriaethau, er mwyn cyflwyno prosiectau cynhyrfus newydd a gwella safon bywyd a gwasanaethau i'r holl breswylwyr, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol.
Lleolir yn yr orsaf rheilffordd yn y Rhyl, lle mae yma ganolfan gymunedol hefo digon o adnoddau. Rydym yn darparu offer aml gyfrwng i ddefnyddwyr i hyrwyddo gweithgareddau cymunedol ar, ac oddi ar y safle.
Ein nod yw sicrhau y cewch gyfle i ddysgu a datblygu sgiliau mewn awyrgylch gyfeillgar, anffurfiol, cyfarfod pobl newydd a chynyddu o ran hyder .
Yn ddiweddar llwyddwyd i sicrhau arian gan y Wales Co-op ar gyfer y prosiect Comput'ER i atgyweirio a gwneud gwaith cynhaliaeth ar offer Technoleg Gwybodaeth. Gallwn hefyd drefnu sesiynau blasu Technoleg Gwybodaeth i roi sgiliau newydd i bobl, gwella eu siawns am waith a'u helpu i adfer balchder ynddynt eu hunain.

