| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cynllun Sengl Plant a Phobl Ifanc
CYPP logo

Dyma'n Cynllun Sengl cyntaf ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, ac mae'n esbonio sut rydym oll yn mynd i weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau a rhagolygon plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn nodi ei gweledigaeth ar gyfer plant a phobl ifanc a datblygu'r Cynllun Sengl yn y dogfennau canlynol:

  • Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu'r Hawliau
  • Ymestyn Hawliau: Cynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru
  • Partneriaethau Cryfach i Wella Canlyniadau

Y Cynllun hwn yw'r gyrrwr allweddol ar gyfer gwella cynllunio, rhannu cyfrifoldebau a chyflwyno canlyniadau positif ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac mae'n pennu blaenoriaethau ym mhob un o'r 7 Amcan Craidd.

Mae ein Hasesiad Anghenion, y Cynllun a'r blaenoriaethau yn y Cynllun wedi eu datblygu trwy gyfrwng cyfres o ymgynghoriadau gyda phlant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a phobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Maent yn adlewyrchu'r hyn y mae ein sir, a'r bobl sy'n byw a gweithio yma, eisiau i ni ei flaenoriaethu ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Ein Stori Nisy'n rhoi i chi drosolwg o Sir Ddinbych, ein cynllun a sut mae popeth yn cysylltu â'i gilydd
Adroddiad Ymgynghorolsy'n adrodd am yr ymgynghoriad a sut defnyddiwyd y wybodaeth a llunio'r blaenoriaethau
Asesiad AnghenionAsesiad Anghenion Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych yw'r darn cyntaf o waith wrth ddatblygu Cynllun Sengl i Blant a Phobl Ifanc. Ynghyd â Phroffil Gwasanaeth, bydd Asesiad Anghenion yn ffurfio sylfaen ar yr hwn y bydd comisiynu a chyflwyno gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn cael ei adeiladu dros y tair blynedd nesaf (2008 - 2011).
Y Crynodeb sy'n rhoi trosolwg o'r cynllun mewn dogfen hawdd ei darllen, sy'n crynhoi'r cynllun ac yn eich hysbysu o'r blaenoriaethau dan bob Amcan Craidd.
Y Cynllun SenglDyma'r ddogfen lawn sy'n nodi'n fanwl pam a sut rydym wedi datblygu'r cynllun, yr hyn rydym wedi ei ddysgu o'r asesiad anghenion, beth yw Blaenoriaethau ein Partneriaeth, rhai o'r pethau da sy'n digwydd eisoes, sut byddwn yn mesur ein blaenoriaethau, cysylltiadau strategol â dogfennau eraill a sut byddwn yn mesur cynnydd.
Archwiliad Gofal PlantMae'r crynodeb hwn yn nodi canlyniadau holiadur manwl mewn perthynas â darparu gofal plant yn y sir. Bydd yr adroddiad llawn ar gael ddiwedd mis Hydref.
Templed DataMae hon yn ddogfen ychwanegol - gwaith ar y gweill - sy'n nodi dangosyddion perfformiad eraill y mae ein partneriaid yn gweithio danynt dan bob pennawd amcan craidd a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Strategaeth CyfranogiadDatblygwyd y strategaeth hon gan y Gweithgor Cyfranogiad ac mae’n pennu rhai blaenoriaethau allweddol i ddatblygu cyfranogiad plant a phobl ifanc yn y prosesau cymryd penderfyniad a rhoi llais iddynt er mwyn iddynt fedru dylanwadu ar ddatblygu gwasanaethau, cefnogaeth a gweithgareddau sy'n briodol i'w hanghenion.
Phroffil GwasanaethDifanc.com
CyfrifoldebDengys y diagram hwn sut rydym yn gweithio hefo'n gilydd i sicrhau rhedeg, monitro a gwerthuso'r cynllun. Mae'n dangos y ddolen i Gabinet y Cyngor, y Pwyllgorau Archwilio a'r Cyngor Sir llawn, ein partneriaid - eu cyrff a'u hymddiriedolwyr ac yn fwy pwysig i weld barn Plant a Phobl Ifanc.



 

Mae'r Gwaith yn cychwyn nawr i ddatblygu cynlluniau gweithredu, i ddylunio fframweithiau asesu perfformiad ac effaith a chyflwyno'r camau a fydd yn gweld ein Cynllun Sengl yn dod yn realiti i blant a phobl ifanc Sir Ddinbych.

Partnership Logo


Ymlyniadau
 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych