| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Tueddiad Rhywiol

Tueddiad Rhywiol

Rheoliadau deddf cydraddoldeb mynediad i nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau (tueddiad rhywiol) 2007


Mae Rhan 3 Deddf Cydraddoldeb 2006 wedi darparu rheoliadau ychwanegol at warchod yn erbyn gwahaniaethu ar dir crefydd neu gred i gynnwys tueddiad rhywiol. Mae hyn yn galluogi gwarchod yn erbyn gwahaniaethu ar dir tueddiad rhywiol (a dybir neu sy'n wir):


• Wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau, gwasanaethau, addysg
• Wrth ddefnyddio adeiladau
• Wrth wneud dyletswyddau cyhoeddus


Ymhellach i hyn daeth Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (tueddiad rhywiol) 2007 yn gyfraith ar 30 Ebrill 2007, gan  wneud gwahaniaethu yn anghyfreithlon.


Gwahaniaethu ar dir tueddiad rhywiol


O 30 Ebrill 2007 daeth hi'n anghyfreithlon i unrhyw un ddarparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau, neu reoli neu gael gwared o eiddo, i wahaniaethu yn erbyn person oherwydd ei dueddiad rhywiol neu dueddiad tybiedig, neu dueddiad rhywiol neu dybiedig rhywun y maent yn cysylltu â nhw.

Mae'r rheoliadau yn gwahardd gwahaniaethu ar sail :
 
 gwir dueddiad rhywiol

 tueddiad rhywiol tybiedig y person a / neu ;

 tueddiad rhywiol rhywun y mae o / hi yn cysylltu ag o.

Cyflogaeth
Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (tueddiad rhywiol) 2003


Mae Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (tueddiad rhywiol) 2003 yn gwarchod cyflogedig rhag gwahaniaethu oherwydd eu tueddiad  gwirioneddol neu a dybiedig.


Mae gwahaniaethu yn anghyfreithlon mewn perthynas â :


• recriwtio a dethol
• telerau ac amodau cyflogaeth a gynigir a / neu y gwneir cais amdano
• cyfleoedd am hyfforddiant, yr hyfforddiant ei hun, dyrchafiad a throsglwyddo swyddi
• poendod a fictimeiddio
• sacio gan gynnwys diswyddo
• wedi cyflogaeth, er enghraifft darparu geirda.
Gall y rheoliadau godi sawl cwestiwn:
• A fedr neu a oes raid i gyflogwr fonitro tueddiad rhywiol ymgeiswyr am swydd a'u gweithlu'n gyffredinol?
• Beth mae "teimlad" am dueddiad rhywiol person yn ei olygu?
• Beth yw eithriadau sylweddol?
• A all cydweithiwr crefyddol wrthod gweithio hefo cydweithiwr hoew trwy ddefnyddio Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (crefydd neu gred) 2003 i'w amddiffyn?


Cynllun Cydraddoldeb y Cyngor Sir

 
Mae'r gan y Cyngor ddatganiad hynod bositif ar dueddiad rhywiol o fewn y Polisi Cydraddoldeb Corfforaethol ar gyflogaeth a threfnu gwasanaethau.


Mae'r rhaglen "Stonewall Diversity Champion" yn fforwm ymarfer da i gyflogwyr i hyrwyddo cydraddoldeb a thriniaeth deg yn y gweithle i bobl lesbaidd, hoew a deurywiol. Cafodd y cynllun "ganmoliaeth uchel" yng ngwobr Elusen 2006. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn awr yn aelod o Stonewall Cymru ac mae un o'n swyddogion wedi bod yn gyd gadeirydd.


Mae'r Cyngor yn hyrwyddo lleoliadau lle gellir cael partneriaeth ddinesig.

Ymlyniadau
 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych