| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Crefydd a Chred

Deddf Cydraddoldeb 2006


Beth yw ystyr "crefydd neu gred"?


Mae'r diffiniad o grefydd neu gred o dan rhan 2 yn ehangach na'r diffiniad a roddir yn rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (crefydd neu gred) 2003. Mae pedair rhan i'r diffiniad newydd:


1. mae crefydd yn golygu unrhyw grefydd
2. mae cred yn golygu unrhyw gred grefyddol neu athronyddol
3. mae cyfeirio at grefydd yn cynnwys hefyd gyfeirio at ddiffyg crefydd
4. mae cyfeirio at gred yn cynnwys hefyd gyfeirio at ddiffyg cred .


Yn Rheoliadau Cyflogaeth 2003, mae crefydd neu gred yn cwmpasu unrhyw gred grefyddol neu gred athronyddol gyffelyb. Yn y diffiniad newydd, does dim rhaid i gred fod yn athroniaeth gyffelyb i gred grefyddol. Mae'r nodiadau eglurhaol a gyhoeddwyd hefo'r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud bod rhaid i grefydd neu gred gael strwythur clir a system o gredu. Mae'n cynnwys ffydd y Baha’i, Buddhism, Cristnogaeth, Hinduism, Islam, Jainism, Judaism, Rastafarianism, Sikhism a Zoroastrianism. Mae enwebiadau neu sectau crefyddol hefyd yn grefydd e.e. Catholigiaeth neu Brotestaniaeth o fewn Cristnogaeth. Yn nhermau cred, mae dyneiddiaeth neu atheistiaeth hefyd yn cael eu cynnwys. Mae cred wleidyddol yn cael eu heithrio'n benodol.


Mynediad i nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau


Daeth rhan 2 Deddf Cydraddoldeb 2000 i rym ar 6 Ebrill 2007 ac mae hi'n anghyfreithlon gwahaniaethu ar dir crefydd neu gred


• Wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau
• Wrth gael gwared a rheolaeth eiddo
• Mewn Addysg
• Wrth ymarfer swyddogaeth gyhoeddus.


Gwahaniaethu anghyfreithlon yw:


a) Gwahaniaethu yn erbyn person oherwydd eu crefydd neu gred.


b) Gwahaniaethu yn erbyn person oherwydd eu crefydd neu gred dybiedig - tybio bod gan berson grefydd neu gred a gwahaniaethu oherwydd hynny, boed  yn dybiaeth gywir neu anghywir. Er enghraifft, gall darparydd gwasanaeth dybio bod rhywun yn perthyn i grefydd benodol oherwydd eu golwg. Os gwrthodir mynediad  bydd ef / hi wedi dioddef ar dir crefydd hyd yn oed os mai cam ddeall a ddigwyddodd.


c) Gwahaniaethu yn erbyn person oherwydd crefydd neu gred rhywun arall - er enghraifft, gwrthod gwasanaethau i rywun nid oherwydd ei fod ef / hi yn perthyn i grefydd benodol ond oherwydd bod y person sydd hefo nhw yn perthyn i'r grefydd honno.


d) Gwahaniaethu yn erbyn person oherwydd bod ganddynt yr un grefydd neu gred - er enghraifft, mai hi'n anghyfreithlon i un sy'n darparu gwasanaethau Cristnogol wahaniaethu yn erbyn cyd Gristion, neu i ddarparydd gwasanaethau Mwslim wahaniaethu yn erbyn cyd Fwslim oherwydd eu cred.


Nid yw gwahaniaethu yn rhan 2 yn cynnwys gweithred gan ddarparydd gwasanaethau a symbylwyd gan ei gred ei hun. Os bydd darparydd gwasanaethau crefyddol yn gwrthod darparu gwasanaethau penodol i ddynes oherwydd byddai'n gwrthdaro yn erbyn ei grefydd, ni all y ddynes ddefnyddio rhan 2 Deddf Cydraddoldeb i herio hyn. Byddai raid iddo geisio cael ateb cyfreithiol wahanol. Mae sylw rhan 2 y ddeddf ar grefydd neu gred y person y gwahaniaethir yn ei erbyn, nid crefydd neu gred y un sy'n gwahaniaethu.


Crefydd neu gred: cyflogaeth


Mae'r rheoliadau hyn yn gwarchod cyflogedig rhag gwahaniaethu oherwydd grefydd neu gred. Maent yn codi llawer o gwestiynau i Awdurdodau Lleol. Gall DIALOG helpu Cynghorau  ddelio hefo'r sialensiau hyn .


Gwarchod cyflogedig


Mae rheoliadau cydraddoldeb cyflogaeth  2003 <http://www.idea.gov.uk/idk/core/external-link.do?redirectUrl=http%3A//www.opsi.gov.uk/si/si2003/20031660.htm> yn gwarchod rhag gwahaniaethu oherwydd eu crefydd neu gred real neu dybiedig .


Mae gwahaniaethu yn anghyfreithlon mewn perthynas â :


• recriwtio a dethol
• telerau ac amodau cyflogaeth a gynigir a / neu y gwneir cais amdano
• cyfleoedd am hyfforddiant, yr hyfforddiant ei hun, hyrwyddo a throsglwyddo swyddi
• poendod a fictimeiddio
• sacio gan gynnwys diswyddo
• wedi cyflogaeth, er enghraifft darparu geirda.


Gall y rheoliadau godi sawl cwestiwn:


• Sut y diffinnir crefydd neu gred?
• A fedr neu a oes raid i gyflogwr fonitro tueddiad rhywiol ymgeiswyr am swydd a'u gweithlu'n gyffredinol?
• Beth mae "teimlad" am dueddiad rhywiol person yn ei olygu?
• Beth yw eithriadau sylweddol?
• A all cydweithiwr crefyddol wrthod gweithio hefo Cwsmeriaid hoew?

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych