| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Ailgylchu

Ar y tudalennau hyn mae gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau ailgylchu sydd yn Sir Ddinbych.

Compostio Cartref - rydym yn gwerthu compostwyr 320 litr i’r rhai sydd â diddordeb mewn creu compost gardd. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.

Napis iawn - mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig talebau gwerth £75 i rieni sy’n dymuno defnyddio clytiau iawn yn lle rhai papur. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.

I bob rhan o’r Sir, mae’r casgliad blychau glas wedi gorffen ers dydd Gwener, 30 Mawrth, a bydd preswylwyr yn defnyddio eu biniau glas mawr neu’r system sachau smart, dibynnu ar yr ardal.
Bydd pob cartref ar y cynllun ailgylchu yn gallu ailgylchu mwy o eitemau - gan gynnwys cardfwrdd, cynhwysion bwyd plastig a chartonau diod tetrapak.

Ailgylchu biniau glas a Chasglu Gwastraff Bwyd - os ydych yn byw ym Modelwyddan, Dyserth, Prestatyn, y Rhyl, Rhuddlan neu Llanelwy ac os ydych yn rhan o’r cynllun cist olwyn x2 du a gwyrdd, yna cesglir eich gwastraff ailgylchu mewn cist olwyn las. Mae gwasanaethau casglu gwastraff bwyd ar gael hefyd yn yr ardaloedd hyn. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.

Sachau ailgylchu glas a gwyn - Cynllun newydd i ailgylchu sy’n effeithio ar y rhan fwyaf o bobl Sir Ddinbych sy’n cael casgliad wythnosol mewn sachau pinc, a hefyd preswylwyr sydd ar y cynllun cist olwyn x2 sy’n byw yn Ninbych a Rhuthun. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth. 

Parciau ailgylchu – mae 4 parc ailgylchu yn Sir Ddinbych. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.

Ymlyniadau
 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych