| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cyfarfod y Tîm

Lisa Leece

LISA LEECE
Rheolwr Partneriaeth Plant a Phobol Ifanc

Rwyf wedi gweithio gyda phobl ifanc yn y sector gwirfoddol dros nifer o flynyddoedd, a bûm yn gweithio am 4 mlynedd gyda phobl ifanc yn datblygu eu sgiliau mentergarwch trwy gyfrwng rhaglenni busnes mewn ysgolion. Mae gennyf gefndir datblygu a rheoli busnes a bûm yn rhedeg fy musnes fy hunan am nifer o flynyddoedd.
Ers ymuno â Sir Ddinbych yn 2003 fel Rheolwr Partneriaeth Ardal y Rhyl, rwyf wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu dwy Ganolfan Integredig Plant, yn y Rhyl a Dinbych Uchaf, menter Ysgolion Bro ledled y sir ac rwyf nawr yn rheoli'r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ar secondiad o'r Partneriaethau Addysg.  Gan y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc mae'r cyfrifoldeb arweiniol i ddatblygu, darparu, monitro ac arfarnu'r Cynllun Sengl ar gyfer Sir Ddinbych. Fy rôl i yw cynrychioli a datblygu'r Bartneriaeth yn strategol, gan sicrhau bod gwaith cynllunio, comisiynu, monitro ac arfarnu cadarn yn bodoli ac i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwaith o anghenion plant a phobl ifanc. Rwyf hefyd yn gyfrifol am adrodd ar ein cynnydd i gynghorwyr, amrywiol gyrff llywodraethu ac archwilio, a Chynulliad Cymru. 

Kirsty Newell

KIRSTY NEWELL
Gweinyddes Partneriaeth

Rwyf wedi gweithio i'r Cyngor am dros ddwy flynedd a hanner gan ddechrau fel prentis modern hefo'r adran Personnel, cyn ennill swydd hefo'r adran cyllid myfyrwyr. Ymunais hefo'r tîm cynnal partneriaeth ddechrau mis Awst ac rwyf yn Weinyddes Partneriaeth ar hyn o bryd. Golyga hyn gyswllt clos hefo holl aelodau'r tîm a darparu cymorth gweinyddol amrywiol. Rwyf hefyd yn gyfrifol am greu cynnwys y wefan a sicrhau ei fod yn gyfredol hefo gwybodaeth gyfredol a chasglu adroddiadau chwarterol  i'r prosiectau Cymorth cyfredol. Ar hyn o bryd rwy'n paratoi ar gyfer prosiect Cymorth a chasglu ceisiadau ynghyd. Cafodd ein cynllun Sengl ei ddatblygu dros yr haf ar ôl ymgynghoriad eang a'i ryddhau ym mis Medi. Hwn yw'r prif waith i'r holl dîm gan sicrhau ein bod yn darparu gwell gwasanaethau i holl blant a phobl ifanc. Yn ogystal â'r gwaith dydd i ddydd a wnaf rwyf hefyd yn gweithio tuag at NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Busnes.

Melanie Baugh

MELANIE BAUGH
Swyddog Cymorth Partneriaeth

Ymunais a'r tim cynnal partneriaeth ym mis Ebrill 2005, ar ôl 25 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a 15 mlynedd o fod yn y diwydiant bancio.
Fy rôl o fewn y tim yw gweinyddu a chymorth ysgrifenyddol i bartneriaeth strategaeth plant a phobl ifanc a gweithgorau'r bartneriaeth.  Byddaf hefyd yn cefnogi'r Gweithgorau i ddatblygu’r cynlluniau gweithredu a chyflwyno nod cynllun sengl plant a phobl ifanc.  Mae mynychu cyfarfodydd gweithgor y Bartneriaeth yn fy ngalluogi i wneud cyswllt ar draws ardaloedd gwaith gwahanol, helpu i sicrhau na ddyblygir gwaith ac felly ffordd fwy effeithiol o wneud gwahaniaeth positif i fywydau plant a phobl ifanc Sir Ddinbych.
 

Emma Banfield

EMMA BANFIELD
Swyddog Polisi a Pherfformiad

Ymunais a'r tîm cynnal partneriaeth ddiwedd mis Medi 2008, fel Swyddog Polisi Cyllid a Pherfformio. Rwyf wedi symud o swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn ne Cymru lle gwnes ymchwil safon, a chyn hynny bûm yn gweithio i LACORS, braich o Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr, ac yn adran dai bwrdeistref Lewisham yn Llundain. Fy  rôl yn y Bartneriaeth yw sicrhau ein bod yn casglu tystiolaeth o'n datblygiad a'r canlyniadau a gawn i blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych. Fy ngweledigaeth i'n partneriaeth yw symud ymlaen ar reolaeth perfformiad; sicrhau bod gennym dystiolaeth o ffrwyth ein gwaith, delio hefo ein gwendidau a datblygu partneriaeth yn y dyfodol i blant a phobl ifanc. Y cynllun sengl yw ein harweiniad a rhaid i ni sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn dda a'n bod yn dysgu ohono!

Angela Delaney

ANGELA DELANEY
Swyddog Datblygu Partneriaeth

Ymunais a'r tim cynnal partneriaeth ym mis Medi 2008. Cyn hynny bum hefo Heddlu Gogledd Cymru am bron i 12 mlynedd mewn amrywiaeth o swyddi gweinyddol a goruchwylio, gan gynnwys Gwerth Gorau a rheolaeth prosiect. Treuliais y ddwy flynedd a hanner diwethaf ar secondiad i Cymunedau'n Gyntaf yng ngorllewin y Rhyl, fel Cydgordiwr Datblygu Cymunedau.
fy rôl o fewn y tim partneriaeth yw cynnal datblygiad grwpiau amrywiol sy'n eistedd o fewn y bartneriaeth megis Hawliau Cynnar (0-10 oed) ac Ymestyn Hawliau (11-25 oed) a hefyd datblygu
4 rhwydwaith ar draws y sir i edrych ar faterion lleol, a gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yn mynd yn ol i'r grŵp Strategaeth. Bydd hyn yn golygu gwneud cyswllt hefo grwpiau cymunedol a grwpiau gwirfoddol yn Sir Ddinbych yn ogystal â phartneriaeth strategol, i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i gawl gweithgareddau a gwasanaethau fel y dymunant ar draws y sir.

Jan Juckes-Hughes

JAN JUCKES-HUGHES
Swyddog Prosiect Cymorth

Ymunais a'r tim partneriaeth ar secondiad ar ol gweithio i Gyngor Sir Ddinbych yn yr adran Addysg / Gwella Ysgolion am dros 6 mlynedd.

Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn cyfle newydd o fewn y secondiad hwn. Byddaf yn rhoi adroddiadau am y prosiect Cymorth a'r timau partneriaeth i wneud yn siŵr bod y prosiectau yn rhai o safon uchel, yn effeithiol ac yn werth y pres.  Byddaf yn benodol yn gweithio hefo ac yn cynnal prosiectau Cymorth dros y misoedd nesaf ac yn eu diweddaru ar ddatblygiadau partneriaeth a'r Cynllun Sengl.      

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych