Bws Fflecsi – cludiant cyhoeddus yn yr ardal wledig o gwmpas Rhuthun
Bydd bysiau’n rhedeg o Ruthun i’r pentrefi canlynol:
- Betws GG
- Bontuchel
- Clawddnewydd
- Clocaenog
- Cyffylliog
- Derwen
- Melin-y-Wig
Mae Cadwyn Clwyd, yr asiantaeth datblygu cefn gwlad ar gyfer Sir Ddinbych, gydag arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, wedi talu am welliannau i’r gwasanaethau bws yn y cylchoedd hyn a chynnig mwy o deithiau sy’n “ymateb i’r galw”.
Caiff y bysiau eu dynodi fel “Bws Fflecsi” oherwydd eu bod yn fwy hyblyg nag o’r blaen. Prosiect rhagbrofol yw hwn ac mae cymorth ariannol ar gael amdano am ryw 2½ flynedd.
Cwestiynau Cyffredin - Bws Fflecsi
Beth yw’r gwelliannau a phryd fydd bysiau’n rhedeg?
- Erbyn hyn mae bysiau ar gael chwe diwrnod yr wythnos i bobman yn ac o gwmpas y pentrefi i’r de ac i’r gorllewin o Ruthun. O’r blaen, er enghraifft, nid oedd unrhyw wasanaeth i Bontuchel neu Gyffylliog ar ddydd Llun ac nid oedd unrhyw fysiau ar dri diwrnod i Lanelidan.
- Mantais arall yw bod bysiau erbyn hyn yn rhedeg ar yr un pryd bob diwrnod ble bynnag y bo modd. O’r blaen, roedd yr amseroedd bysiau’n wahanol ar wahanol ddiwrnodau o’r wythnos.
- Erbyn hyn mae mwy deithiau, yn cynnig mwy o ddewis.
- Dau fws llawr isel hygyrch sy’n rhedeg y gwasanaeth, y tro cyntaf i’r rhain gael eu gweld ar y llwybrau hyn.
- Erbyn hyn mae bysiau’n rhedeg yn hwyrach yn y prynhawn.
Mae’r amserlen yn dangos bod nifer o deithiau dychwelyd yn “ymateb i’r galw.” Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae’r rhan fwyaf o deithiau prynhawn yn rhedeg ar gais yn unig. Os oes teithwyr yn aros am y bws yn Stryd y Farchnad, bydd yn rhedeg i ba bynnag bentref sydd ar linell y llwybr.
Sut mae archebu lle ar un o’r teithiau prynhawn hyn?
Gall teithwyr ‘archebu’ taith ôl a blaen mewn tair ffordd:
- Trwy ddweud wrth y gyrrwr ar y daith i mewn pryd yr ydych eisiau dychwelyd. Mae gan GHA drefn i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu trosglwyddo i unrhyw yrwyr sy’n dilyn.
- Aros yn Stryd y Farchnad ar yr adeg briodol ar gyfer y pentref priodol. Mae amser bysiau dychwelyd i gyd o Stryd y Farchnad. Yna gall y gyrrwr benderfynu faint o bobl sy’n teithio ac i ble.
- Archebu dros y ffôn ar 01978 820 820. Mae hyn yn ddelfrydol i deithwyr sy’n teithio ar eu liwt eu hunain i Ruthun ond sydd angen sicrwydd gwybod y gallant archebu taith yn ôl. Mae hefyd yn ddefnyddiol mewn nifer bach o achosion lle gall bws sy’n teithio i gyfeiriad Rhuthun wyro i gyfarfod teithiwr.
I ble mae’r teithiau prynhawn yn mynd?
- Gall bysiau am 1320 ac 1420 wasanaethu unrhyw rai o’r pentrefi canlynol:
Bontuchel, Cyffylliog, Clawddnewydd, Clocaenog a/neu Clawddnewydd. - Gall bysiau am 1210 ac 1410 wasanaethu Llanelidan a/neu Rhyd y Meudwy.
- Gall bysiau am 1620 wasanaethu Bontuchel, Cyffylliog, Clawddnewydd, Clocaenog, Clawddnewydd, Llanelidan neu Rhyd y Meudwy.
- Gall bysiau am 1720 wasanaethu Bontuchel, Cyffylliog, Clawddnewydd, Clocaenog, Clawddnewydd, Llanelidan neu Rhyd y Meudwy, Derwen, Betws GG a/neu Melin-y-Wig.
Beth sy’n digwydd os yw bws yn dod i Stryd y Farchnad a neb yn aros amdani?
Oni bai fod teithiwr ymhellach ar y daith wedi archebu, ni fydd y bws yn rhedeg. Mae hyn yn osgoi gwastraffu milltiroedd a thanwydd, pan fo’r bws yn rhedeg yn wag.
Ym mha drefn fydd teithwyr yn cael eu dychwelyd?
Mater i’ch gyrrwr fydd hynny. Rydym yn gofyn i’r gyrrwr ollwng teithwyr yn y drefn fwyaf rhesymegol i leihau amserau teithio’r teithwyr.
Mae un daith yn cychwyn yn Ysgol Brynhyfryd am 1715. Pam felly?
I ddychwelyd teithwyr sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol. Arbrawf yw hwn. Bydd y bws yn codi am 1715 yn yr ysgol ar ddiwrnodau ysgol yn unig, tra bo’r ymadawiad dilynol am 1720 o Stryd y Farchnad y’n gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Gall teithwyr sy’n mynd o Ysgol Brynhyfryd i dref Rhuthun ddefnyddio’r daith 1715 am y pris tocyn priodol.
Beth os wyf yn gorfod gwyro oddi ar lwybr bysiau cydnabyddedig ar gyfer teithiwr?
O leiaf i ddechrau, ni fydd gofyn i fysiau wyro oddi ar ffyrdd presennol y gwyddom sy’n ddiogel i fysiau. Fodd bynnag, mae hyn yn rhan o’r cynllun ar gyfer y gwasanaeth. Mae’n dderbyniol, fodd bynnag, i ollwng a chodi yn unrhyw fan diogel ar hyd llinell y llwybr (e.e. tu allan i dŷ rhywun).
Beth yw pris tocynnau am y gwasanaeth?
Yr un pris â thocynnau bws arferol. Bydd deiliaid Cerdyn Cymru’n teithio am ddim. Gall deiliaid cardiau 16218 dilys gael gostyngiad o 25% ar bris tocynnau oedolion am deithiau unffordd a dychwelyd.

