Ar droad y ddeunawfed ganrif, roedd Llangollen yn adnabyddus fel carfref Ladis Llangollen : y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby. Mae stori ramantus eu ffoad o'u teuluedd yn Iwerddon, eu taith i Gymru, a sefydlu cartref ym Mhlas Newydd yn un a gipiodd ddychymyg cymdeithas Raglywiaethol y dydd. Mae arddangosfa yn adrodd eu hanes ac yn cynnwys rhai o'u meddiannau. Yn wreiddiol, roedd y ty lle buont yn byw gyda'i gilydd am bron i 50 mlynedd yn fwthyn bychan diymhongar pan symudasant yno ym 1780.
Rhwng 1798 a 1814 aethant ati i greu cartfref Gothig iddynt eu hunain. Arweiniodd hyn at ffenestri gwydr lliw a phaneli derw gyda cherfiadau cain, wedi eu hadeiladu i mewn i ffabrig y ty. Crewyd y gerddi ffurfiol ar ol amser y Ladis, ond maent yn adlewyrchu'r heddwch a'r llonyddwch 'roedd y ddwy yn chwilio amdanynt. Yn y gerddi, mae tystiolaeth o hyd o waith y Ladis, ac mae project adfer mawr, a ariannir yn bennaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn datguddio mwy o'r tirlun rhamantus a grewyd ganddynt.

