
Mae’r Gwobrau Best Bar None yn fenter sydd wedi’i chefnogi yn genedlaethol gan y Swyddfa Gartref a’r British Institute of Innkeepers ac yn lleol gan Gynghorau Sir Conwy a Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, nod y cynllun yw hyrwyddo rheoli eiddo trwyddedig yn gyfrifol. Mae’r gwobrau wedi cydnabod ymdrechion a llwyddiannau dalwyr trwydded i godi safonau a bod yn westywyr cyfrifol.
Mae’r cynllun yn chwarae rhan bwysig mewn darparu amgylchedd diogel, sy'n fwy croesawgar a phleserus wedi’i rheoli’n dda, gan annog y cyhoedd ar yr un pryd i gefnogi eu barrau, clybiau a thafarndai lleol.
Rydym yn derbyn bod llawer o eiddo trwyddedig wedi’i chael yn anodd yn ystod y dirywiad diweddar yn ein heconomi . Gobeithiwn bydd y gwobrau hyn yn codi proffil eiddo trwyddedig sydd wedi’u rheoli’n dda.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun cysylltwch â chyd-drefnwyr Best Bar None: Nicky Jones ar 07771 512556 neu Samantha Jones ar 07733 013306
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Best Bar None trwy ddefnyddio’r dolenni isod.


