Llyfrau ar gryno ddisg
P’un ai oes gennych chi broblem gyda’ch golwg neu rydych chi’n edrych am rhywbeth i’ch difyru tra’n smwddio neu i wrando arno tra’n gyrru neu’n ymlacio, mae gennym ni ystod eang o lyfrau ar gryno ddisg.
Ceir straeon gan awduron mor amrywiol â Stephen Fry ac Agatha Christie, Terry Pratchett ac Ian Rankin, dramau radio cast llawn gan ddramodwyr megis Dorothy L. Sayers ac Ellis Peters, hanesion y Daleks gyda Doctor Who a’r penodau mwyaf “Fantabulosa” o Round the Horne.
Felly dyma gyfle i chi wrando, ymlacio a mwynhau.

