| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Mathau o ailwynebu
Ailwynebu

Yn ychwanegol at ail-wynebu arferol hefo Asphalt neu Facadam poeth, rydym yn gwneud sawl math arall o waith ail-wynebu er mwyn gwella safon y wyneb ac ymestyn oes wyneb y ffordd.

Micro Asphalt

Mae Micro Asphalt yn broses o fath o slurry sy’n gorwedd dros yr arwyneb presennol, sy’n dileu diffygion ac sy’n selio’r arwyneb  a thrwy hynny ymestyn oes wyneb y ffordd o hyd at ddeg mlynedd. Mae’r broses yn hynod o effeithiol mewn ardaloedd lle mae’r briffordd bresennol yn dechrau dangos arwyddion o wisgo allan a lle mae problemau oherwydd nad yw’n atal sgidio.

Trwsio wyneb y ffordd

Mae’r math hwn o arwyneb yn fwy cyfyngedig ei ddefnydd ond yn rhatach i'w ddefnyddio ac mae’n effeithiol iawn i ddatrys problemau sgidio. Mae’n selio’r wyneb presennol gan ymestyn oes wyneb y ffordd o hyd at wyth mlynedd. Fodd bynnag ni ellir ei ddefnyddio ar ffyrdd sydd eisoes yn dechrau malu a thyllu. Fodd bynnag mae rhai rhannau o ffyrdd yn Sir Ddinbych sy’n addas i'w trwsio.

Llaid ar droedffordd

Mae llaid ar droedffyrdd yn gweithio’n debyg i ficro asphalt ond fel yr awgryma’r enw, cyfyngir ei defnydd i droedffyrdd lle bydd nid yn unig yn atal llithro ond mae’n gwella golwg y lleoliad.

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych