Cafwyd cymeradwyaeth i gontractwyr sy’n gweithio ar un o gynlluniau atgyweirio tai Cyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Fe ymwelodd yr HSE yn ddirybudd â’r safle tra’r oedd gwaith yn mynd rhagddo yn Bath Street gan edrych ar bob agwedd ar iechyd a diogelwch y safle.
Fe welodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod gosodiad y safle, y gweithdrefnau a’r gwaith papur yn dda iawn ac fe adroddodd yr archwiliwr ei fod yn hapus gydag ymagwedd y contractwyr tuag at iechyd a diogelwch.
Pentagon Construction Ltd yw’r contractwyr, cwmni sydd newydd ei ffurfio ond sydd â thîm rheoli profiadol mewn prosiectau adnewyddu tai.
Mae canfyddiadau’r archwilwyr hefyd yn adlewyrchu ymagwedd bositif Cyngor Sir Ddinbych i Iechyd a Diogelwch a’r gwaith a wneir gan Swyddogion i sicrhau bod gofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu gweithredu.

