| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
05/18/2009 - Dathlu llwyddiant Trefi Taclus yn Sir Ddinbych

Mae cymunedau ar draws Sir Ddinbych wedi elwa o fenter fawr sydd wedi ei sefydlu i wella’r amgylchedd lleol ac i sbriwsio’r sir.
Mae dros 158 o ddigwyddiadau clirio wedi eu trefnu’n rhan o’r ymgyrch Trefi Taclus, gyda hyd at 13,000 o oriau gwirfoddol wedi eu treulio’n cyflenwi prosiectau cymunedol drwy’r sir.

Mae Trefi Taclus yn ymgyrch genedlaethol sydd wedi ei sefydlu i annog pobl Cymru i fod yn gyfrifol am eu hamgylchedd lleol ac fe’i hariennir gan ‘Drefi Taclus’ Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chefnogaeth yn lleol gan Gyngor Sir Ddinbych, Cynghorau Tref a Chymuned a Chadwch Gymru’n Daclus.

Yn Sir Ddinbych yn 2008/09:

•Cafodd 1,720 o fagiau o wastraff eu hel (sy’n 77 tunnell)
•Fe ymgymerwyd â 95 o gynlluniau gwella mynediad
•Fe gychwynnwyd ar 48 o brosiectau adennill cynefinoedd
•Fe gychwynnwyd ar 18 o brosiectau ar gyfer rhywogaethau sy’n cael eu diogelu neu sydd mewn perygl
•Trefnwyd 63 o ddigwyddiadau anffurfiol ar gyfer gwirfoddolwyr
•Trefnwyd 5 o amnestau gwastraff/sgipiau cymunedol.

Mae enghreifftiau o waith yn cynnwys clirio mewn nifer o leoliadau, paentio lampau post, sicrhau giatiau a ffensys, gosod giatiau ali mewn deg o leoliadau, clirio ffosydd, clirio coetiroedd, darparu planwyr ar gyfer grwpiau cymunedol a gosod biniau ychwanegol.

Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: "Mae Trefi Taclus yn ymgyrch fawr sy’n ategu ymdrechion y Cyngor i lanhau ein cymunedau.  Ac mae’n ymwneud nid yn unig â glanhau ac adfywio, ond hefyd ag addysgu’r cyhoedd am yr angen i gydweithio i gadw ein strydoedd yn lân.
"Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cynulliad, cynghorau tref a chymuned, Cadwch Gymru’n Daclus a’r gwirfoddolwyr i sbriwsio ein hamgylchedd.  Drwy weithio gyda’n gilydd rydym yn anfon neges glir allan bod glanhau ein gwlad yn rhywbeth y mae ar gymunedau lleol ei eisiau a’i angen, yn ogystal â gwella ansawdd bywyd i drigolion lleol ac ymwelwyr.”

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych