| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
05/18/2009 - Newid mawr yng ngraddfeydd ailgylchu’r sir


Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi “diolch” mawr i drigolion y sir am helpu i wella graddfeydd ailgylchu’r sir yn ddramatig.

Ym mis Ebrill, fe gyflwynodd y Cyngor gyfres o fentrau ailgylchu newydd ac mae’r ffigurau am y mis cyntaf yn dangos fod trigolion wedi rhoi cymeradwyaeth i’r cynllun newydd, drwy ailgylchu mwy fyth o nwyddau - i fyny o 32% i dros 50% o fewn mis.

Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Nid yw’r cynnydd yn syndod.  Mae ailgylchu’n ddrud iawn, a dyna pam y buom yn aros nes i dargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru ddod i rym cyn lansio ein cynlluniau newydd.

“Rydym yn falch iawn o’r ffordd y gwnaethpwyd hyn, gan ei fod yn esiampl dda o athroniaeth newydd Sir Ddinbych o “Ddod â’r Cyngor yn Nes at y Gymuned”.

“Fe ymgynghorwyd â’r cyhoedd am y gwasanaeth y byddent hwy’n ei ddymuno ac fe ddewisodd dros 75% ohonyn nhw’r drefn sydd wedi ei sefydlu’n awr.  Mae’n profi os rhowch chi’r hyn maen nhw’n ei ddymuno i’r bobl, fe fyddant yn ymateb drwy chwarae eu rhan”.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Ganolfan Wasanaeth Cwsmeriaid ar 01824 706100 (lein Gymraeg) neu 01824 706101 (lein Saesneg). Neu, gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy logio ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych