05/22/2009 - Hysbysu selogion cychod o gyfleuster storio newydd
Ydych chi’n chwilio am le diogel i storio cwch? Yna does dim rhaid i chi chwilio ymhellach na chyfleuster newydd sydd wedi ei agor yn Harbwr y Foryd, Y Rhyl.
Mae’r cyfleusterau sydd ar gael yn cynnwys parc cychod gyda mynediad wedi ei ddiogelu, ardal storio i gychod â threlar, ardal i olchi cychod gyda glanhawr stêm a thelerau storio o wythnos i chwe mis.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Thîm Adfywio a Datblygu Arforol Sir Ddinbych, Arena Ddigwyddiadau, East Parade, Y Rhyl, Sir Ddinbych. LL18 3EF, ar y ffôn ar 01745 355456 neu e-bost: mark.budd@sirddinbych.gov.uk

