Roedd brecwast busnes Grŵp Busnes Y Rhyl gyda Geoff Burch yn llwyddiant ysgubol yn ystod Wythnos Y Rhyl yn ddiweddar.
Fe gynhaliwyd y digwyddiad ar Fai 26 yn Neuadd Elwy yn Y Rhyl.
Ystyrir Geoff Burch yn siaradwr ac ysgrifennwr busnes mwyaf cyffrous Ewrop ac mae’n gyflwynydd y rhaglen “All Over the Shop” ar BBC2. Thema sgwrs Geoff oedd sut y gall unrhyw un, o yrrwr wagen fforch godi i gyfarwyddwr cyllid, ddewis bod yn llysgennad neu’n asasin i’w cwmni.
Amcan y cyflwyniad oedd rhoi cyngor i fusnesau Sir Ddinbych i’w helpu drwy’r dirwasgiad drwy ddarparu syniadau ar sut i adeiladu a chadw cwsmeriaid.
Nodyn i olygyddion: Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol ar 01824 706222, 706007 neu 706125.
Mae’r ffotograff yn dangos, o’r chwith i’r dde, Mark Dixon, Prif Reolwr Adfywio Cyngor Sir Ddinbych, Geoff Burch a Barry Mellor, Cadeirydd Grŵp Busnes Y Rhyl.
Rhowch gredyd i Kim Price o Fine Angle Photography Llangollen.

