| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
06/01/2009 - Ymgyrch Diogelwch mewn Pyllau Nofio

Y mis hwn mae Cyngor Sir Ddinbych yn cyflwyno menter drwy’r sir yn canolbwyntio ar ddiogelwch mewn pyllau nofio.
Gwahoddir pob gweithredwr pwll nofio i ddod i seminar ar ddydd Iau, Mehefin 11 i sicrhau fod ganddynt wybodaeth lawn o’u dyletswyddau i’w staff ac ymwelwyr.  Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn rhoi dyletswydd gofal ar bobl sy’n gweithredu pyllau i sicrhau nad yw iechyd a diogelwch eu gweithwyr a phobl eraill yn cael eu peryglu.
Fe gynhelir y seminar ym Melin Brookhouse, Ffordd Rhuthun, Dinbych ar Fehefin 11 am 2pm.
Ar ôl y seminar, bydd Iechyd Amgylcheddol yn archwilio pob pwll i sicrhau bod y safonau hyn yn cael eu cynnal.  Bydd adeiladau sydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y fenter yn derbyn cymorth a chyngor pellach pan ymwelir â nhw.  Os bydd adeiladau’n anwybyddu’r fenter hon neu’n ymddangos eu bod yn anwybyddu safonau diogelwch, gallant ddarganfod eu bod yn agored i achosion gorfodi.
Mae pyllau nofio’n gyfleusterau sy’n dod yn gynyddol boblogaidd ac maent yn atyniad ychwanegol i lawer o bobl leol ac ymwelwyr.  Yn anffodus, gall damweiniau a heintiadau ddigwydd a nod y fenter yw helpu i atal hynny.
I neilltuo lle ar y cwrs neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Richard Henderson, Swyddog Iechyd Amgylcheddol ar 01824 708048 neu e-bost richard.henderson@sirddinbych.gov.uk

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych