| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gofalu am ffyrdd ein sir

Mae Gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith y Cyngor yn gyfrifol am ofalu am:

  • 72 km o briffyrdd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, (A55, A5, A494)
  • 1413 km o ffyrdd eraill
  • 1300 km o lwybrau cyhoeddus (yn cynnwys llwybrau ceffylau a Hawliau Tramwy eraill)
  • 12,700 o oleuadau stryd
  • 545 o bontydd a chylfatiau
  • 164 o waliau cynnal
  • 163 o bontydd troed

Cynnal Arferol
Mae Cynnal Priffyrdd Arferol yn cynnwys patshio ffyrdd a throedffyrdd a chynnal:
• Marciau ffordd a llygaid cathod
• Systemau draenio priffyrdd a ffosydd
• Arwyddion ffyrdd
• Rhwystrau diogelwch a rheiliau gwarchod
• Golau stryd, arwyddion wedi eu goleuo, bolardiau ac arwyddion traffig
• Llwybrau cyhoeddus
• Llwybrau beicio
Bydd archwilwyr ac aelodau’r cyhoedd yn adrodd problemau ac yna fe wneir y gwaith yn nhrefn blaenoriaeth fel y bo adnoddau’n caniatáu.


Cynnal a Chadw wedi ei Gynllunio:

Ffyrdd
• Ail-adeiladu
• Ail-wynebu
• Troshaenau
• Dresin arwyneb

Troedffyrdd
• Ailadeiladu - yn cynnwys cyrbau newydd lle bo’r angen
• Ail-wynebu
• Selio slyri

Fe wneir y gwaith cynnal ar sail yr angen, gan ystyried y canlynol:
• Arolygon cyflwr
• Archwiliadau priffyrdd a nifer y diffygion
• Hawliadau yswiriant trydydd parti
• Lefel y defnydd
• Lefel yr ariannu sydd ar gael

Byddwn yn cynhyrchu rhaglen waith flynyddol ac yn adrodd i’r cynghorwyr sir.

Cyn i’r rhan fwyaf o gynlluniau mawr gychwyn, fe anfonir hysbysiadau at:
• Drigolion lleol
• Cynghorau Tref/Cymuned
• Aelodau lleol y cyngor
• Y wasg leol
• Grwpiau Mynediad Lleol
• Gwasanaethau brys

Cynnal a Chadw Adweithiol


Fe wneir archwiliadau rheolaidd i ddarganfod diffygion a allai fod yn beryglus i’r cyhoedd fel ceudyllau a pheryglon taith.
 Amlder yr Archwiliadau Diogelwch yw:
• Prif Ardaloedd Siopa 1 mis
• Ffyrdd Dosbarth I a II 3 mis
• Ffyrdd cyd-gysylltu lleol 3 mis
• Ffyrdd mynediad lleol 6 mis
Byddwn yn amcanu trwsio diffygion sy’n rhai peryglus o fewn 24 awr.
Byddwn hefyd yn ymateb i ddigwyddiadau brys fel llifogydd ar y priffyrdd cyn gynted ag sydd bosib, yn ddibynnol ar ledaeniad a’r adnoddau sydd ar gael.  Fe fyddai perygl o lifogydd i eiddo yn cael blaenoriaeth.

Gwasanaeth Gaeaf
Clirio Eira a Graeanu:
Pryd bynnag y bydd amgylchiadau rhewllyd wedi eu darogan bydd y ffyrdd canlynol yn cael eu graeanu ymlaen llaw fel rhagofal yn erbyn rhew.
• Pob Priffordd
• Ffyrdd Sirol Dosbarth I a II
• Ffyrdd pwysig eraill sef:

  - Ffyrdd drwodd gyda chynhwysedd traffig mawr

  - O leiaf un mynediad i ganolfannau gwasanaeth brys (ysbytai, gorsafoedd tân, gorsafoedd ambiwlans)

  - O leiaf un mynediad i drefi a phentrefi.


Mae hyn yn 414 km sy’n 28% o’r ffyrdd yn y Sir.

Goleuadau Stryd
Mae’r adran Goleuadau Stryd yn gyfrifol am osod a chynnal a chadw colofnau goleuadau stryd, arwyddion sydd wedi eu goleuo a bolardiau.

Byddwn yn ymateb i ddiffygion Categori Argyfwng 1 o fewn 2 awr, dydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae hyn yn cynnwys:
• Diogelu difrod gan ddamwain neu fandaliaid
• Llusern neu bowlen llusern sy’n hongian yn rhydd
• Methiant adran fawr o’r goleuadau
• Drws y golofn yn rhydd neu ar goll

Fe ddown i ymdrin â diffygion Categori 2 o fewn 24 awr o ddyrannu’r gwaith.
Mae hyn yn cynnwys:
• Diffygion sy’n effeithio ar 3 neu fwy o oleuadau ffyrdd yn olynol ar ffordd
• Diffygion sy’n effeithio ar yr unig olau mewn cul-de-sac neu ffordd fer arall
• Diffygion sy’n effeithio ar oleuadau ‘fflachio’ patrol ysgol

Fe ymdrinnir â phob diffygion eraill (categori 3) o fewn 5 diwrnod gwaith.

Caiff trydan ei gyflenwi gan rwydwaith Power Systems (Manweb) a dim ond nhw neu eu contractwyr a all drwsio unrhyw ddiffygion yn eu rhwydwaith.  Mae gan y Cyngor Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Power Systems fel bod diffygion yn cael eu cywiro o fewn cyfnod penodedig.

Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Power Systems
Argyfwng
– I symud unrhyw berygl uniongyrchol i’r cyhoedd neu eiddo.
Presenoldeb o fewn 2 awr i’r hysbysiad, dydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Brys –  Y Gwaith yn waith brys ond presenoldeb ond nid oes angen presenoldeb y tu allan i oriau gwaith arferol.
Angen sylw ar y diwrnod gwaith nesaf.
Ymateb Uwch – I adfer pŵer i osodiad goleuo sydd â chyflenwad trydan sengl ond sy’n darparu pŵer, yn gyffredinol i fwy na 4 o oleuadau neu lai os gofynnir am hynny gan y Cyngor.
Angen sylw o fewn 5 diwrnod gwaith.
Safonol - Unrhyw ddiffygion eraill
Angen sylw o fewn 10 diwrnod gwaith.

Arwyddion Traffig a Chroesfannau Cerddwyr
(Oriau cytundeb 7am i 7pm, 365 diwrnod y flwyddyn)
Brys
• Uned arwyddion
• Cyfarpar wedi ei ddifrodi ac mewn cyflwr peryglus
• Arwyddion yn methu â newid
• Problemau amseru’n arwain at giwio gormodol
• Arwyddion neu gyfarpar optegol wedi eu difrodi
Mynychu o fewn 4 awr contract ac adfer y gweithrediad o fewn 8 awr contract i’r hysbysiad.
Dim Brys
• Pob diffyg arall
Mynychu o fewn 24 awr contract a thrwsio o fewn 84 awr contract o’r hysbysiad.

Torri Gwair
Fe dorrir ymylon priffyrdd oherwydd diogelwch priffyrdd ac i sicrhau gwelededd i ddefnyddwyr y briffordd.
• Ymylon Gwledig
Fe dorrir 1 ystod unwaith y flwyddyn (toriadau ychwanegol ar gyffyrdd, troadau, cylchfannau etc pan fo’r angen ar gyfer gwelededd)
• Trefol - o fewn cyfyngiadau cyflymder 30mya
Fe’u cynhelir gan Adran Gwasanaethau Amgylcheddol ac fe’u torrir yn amlach a hyd safon uwch.

Chwistrellu Chwyn   - Dim

Gwagio Gyli
Caiff pob gyli eu glanhau o leiaf unwaith y flwyddyn, yn amlach os bydd yna broblemau penodol

Gorfodi
Dan y Ddeddf Priffyrdd 1980 mae gan y Cyngor fel yr Awdurdod Priffyrdd dros Ffyrdd y Sir, ddyletswyddau a phwerau arbennig i gynnal tramwyfa ddiogel i gerddwyr a thraffig.
Y rhai mwyaf cyffredin yw:
• Mwd neu weddillion eraill ar y ffordd
• Canghennau, llwyni a gwrychoedd yn hongian drosodd
• Rhwystrau ar droedffyrdd gyda nwyddau neu fyrddau arddangos.  Caiff hyn ei blismona gan yr Adran Gwasanaethau Amgylcheddol.
• Parcio – Gorfodir gan adran Gwasanaethau Parcio

Gwaith Stryd
Mae Gwaith Stryd yn cwmpasu pob gwaith o fewn y priffyrdd cyhoeddus yn cynnwys Ymgymerwyr Statudol (cwmnïau nwy, trydan, dŵr a ffôn) a’r trwyddedau i osod eitemau o fewn y briffordd
Dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd mae gan y Cyngor ddyletswydd i:
• Gydlynu a chofnodi pob gwaith o fewn y briffordd
• Gynnal a chofrestru pob Gwaith Stryd o fewn y Sir
• Gynhyrchu a Chynnal Catalog Stryd
• Archwilio gwaith stryd
• Roi ‘Hysbysiadau o Agor Ffyrdd’
• Roi trwyddedau ar gyfer pob sgip a sgaffaldiau ar y Briffordd
• Roi cydsyniad ar gyfer goleuadau traffig dros dro
• Ddarparu cyngor ar ddulliau rheoli traffig i unrhyw un sy’n gweithio ar y Briffordd.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych