| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
06/10/2009 - Digwyddiadau i Ofalwyr

Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws Sir Ddinbych i ddathlu Wythnos Gofalwyr (Mehefin 8-14).

Mae llawer o bobl yn y sir yn gofalu am rywun y maent yn eu hadnabod - fel perthynas, ffrind neu gymydog.  Nid ydynt yn cael eu talu am y gofal a roddant, ac efallai fod arnynt angen help neu gefnogaeth i barhau i ddarparu gofal dros amser.

Os ydych chi neu rywun ‘rydych yn eu hadnabod yn ofalwr ac fe hoffwch ddarganfod mwy am y gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael, dewch draw i unrhyw un o’r digwyddiadau canlynol.

Dydd Llun 8fed        Yn Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych, caiff gofalwyr gynnig sesiynau colur, triniaethau therapi holistig, dawnsio clocsen, y cyfle i gael tynnu llun portread, stondinau arddangos, ac arddangosiadau gan Wiltshire Farm Foods, sesiwn cwestiwn ac ateb i ofalwyr, adloniant gan gôr yr ysgol a bwffe.

Dydd Mawrth 9fed         Fe fydd yna stondinau arddangos yn darparu gwybodaeth i ofalwyr yn Llyfrgell Llangollen yn y bore, gyda the a sgons yn nhafarn y Wild Pheasant yn y prynhawn.

Dydd Mercher 10fed        Stondinau arddangos yn Llyfrgell Dinbych yn cynnig gwybodaeth i ofalwyr.

Dydd Iau 11eg        Yn Sainsbury’s yn y Rhyl, fe fydd yna stondinau arddangos yn ogystal â chasglu wrth y til.

Dydd Gwener 12fed         Tesco yn Rhuthun - arddangosfa wybodaeth.

Dydd Sadwrn 13eg         Bydd Aldi ym Mhrestatyn ag arddangosfa o wasanaethau a gwybodaeth i ofalwyr.

Dydd Sul 14eg         Taith gerdded o’r Splash Point yn y Rhyl ar hyd ffrynt glan y môr i Sinema’r Scala ym Mhrestatyn, gyda the a sgons a thocynnau am ddim i weld ffilm ar ôl cyrraedd y Scala.  (Nid yw’n orfodol cwblhau’r daith gerdded cyn mynd i’r Scala)

Fe drefnwyd y digwyddiadau hyn mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n cefnogi ac yn darparu gwasanaethau i ofalwyr.  Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, cysylltwch â NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru) ar Ffôn: 01745 331181 neu E-bost: denbighshire@newcis.org.uk

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych