| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
06/05/2009 - Plant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych i elwa ar gyfle ariannu

Os yw eich sefydliad chi’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yna efallai eich bod yn gymwys ar gyfer ariannu drwy Gronfa Grantiau Bychan Tîm Cefnogi Partneriaeth Cyngor Sir Ddinbych.  
Byddai’r grant i’w ddefnyddio i gynnal digwyddiad neu efallai fod arnoch angen arian ar gyfer prosiect arbennig.  I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’ch sefydliad fod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn ardaloedd Dinbych Uchaf, Gorllewin y Rhyl, De Orllewin y Rhyl, Gallt Melyd, Bodelwyddan, Corwen a Llangollen.
Ni ellir defnyddio’r arian i ddibenion adeiladu cyfalaf, ond fe allai ganiatâi i chi brynu cyfarpar TG neu adnoddau penodol eraill.  Mae grantiau o hyd at uchafswm o £5,000 y cais ar gael.  
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm dydd Mawrth, Mehefin 30 2009 ar gyfer y rownd ariannu hon.  Fe fydd yna gyfle arall i ymgeisio am ariannu ym mis Medi 2009.
Am gyfarwyddyd llawn a ffurflen gais, mewngofnodwch ar www.sirddinbych.gov.uk/pppi neu e-bostiwch cefnogi.partneriaeth@sirddinbych.gov.uk.  
Neu ffoniwch Jan Juckes-Hughes ar 01824 706283.

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych