Fe fydd teithio ar y bws yn Sir Ddinbych yn well fyth o hyn ymlaen gyda lansio prosiect newydd Kickstart yr wythnos hon - menter sy’n ceisio annog defnyddio bysus yn amlach ac felly helpu i wella’r gwasanaeth bws gwledig a rhyng-drefol yn ne’r sir.
Bydd y prosiect, gyda phump o fysus newydd sbon sy’n ecogyfeillgar a chyda mynediad hawdd ar ffyrdd y Sir, yn golygu mynediad haws a mwy o ddewis i ddefnyddwyr bysus presennol a’r gobaith yw y bydd y prosiect yn annog cwsmeriaid newydd hefyd i fynd ar y bws.
Fe ariannwyd y cynllun ar y cyd drwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Cyngor Sir Ddinbych a’r gweithredwr, GHA Coaches.
Mae gwasanaeth dydd bob awr i Wrecsam wedi ei drefnu, fe ychwanegwyd bysus gwasanaeth newydd gyda’r nos ac ar ddydd Sul ac mae gwelliannau i wasanaeth Rhuthun - yr Wyddgrug yn rhan o’r cynllun newydd hefyd. Bydd y prosiect newydd, sy’n ffurfio rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013, yn
• Gwella ansawdd bywyd trigolion mewn ardaloedd gwledig, yn cynnwys defnyddwyr bws presennol a defnyddwyr potensial
• Gwella’r gwasanaeth bws fel ffordd o gynhyrchu ymwelwyr a thwristiaeth gynaliadwy
• Gwella mynediad i bawb drwy gynnig bysus mynediad hawdd
• Darparu cynhwysedd seddau gwell fel bod gan wasanaethu le i ddatblygu
• Marchnata’n well i annog defnyddio bysus/llwybrau bysus
• Ategu peilot Trafnidiaeth Gyhoeddus sy’n Ymatebol i Alw Gwledig Echel 4
Yn ystod y lansio yng Nghastell Rhuthun yr wythnos hon, fe groesawyd y prosiect gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy.
“Mae Kickstart yn brosiect ardderchog a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gyfleoedd teithio i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
“Mae’n destament i agwedd blaengar adran gludiant Sir Ddinbych a’r Cynllun Datblygu Gwledig bod y cynllun hwn wedi bod yn bosib.
“Hoffwn ddiolch i GHA Coaches am eu partneriaeth a’u cyfraniad i’r gymuned drwy wella cysylltiadau a chwarae rhan bwysig yn annog twristiaeth gynaliadwy drwy sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael i leoedd o ddiddordeb.
Dylai teithwyr sydd am ragor o wybodaeth gysylltu â’r gweithredwr GHA Coaches ar 01978 820820 neu gydag ymholiadau amserlen Traveline Cymru 0871 200 22 33 neu ewch i www.x50x52.co.uk <http://www.x50x52.co.uk/>
Am ragor o wybodaeth ar y Prosiect Kickstart neu’r Prosiect Echel 3 e-bostiwch transport@denbighshire.gov.uk <mailto:transport@denbighshire.gov.uk> neu ffoniwch 01824 706847/708085

