| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
06/18/2009 - Dywedwch na wrth sbwriel ar Fwlch yr Oernant


Mae angen gwirfoddolwyr i dorchi llewys a helpu yn y digwyddiad Helfa Sbwriel Fawr sy’n cael ei drefnu ar Fwlch yr Oernant gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych a Chadw Cymru’n Daclus

Caiff y rhostir o gwmpas y Bwlch ei glirio dydd Iau, Mehefin 25 a dylai unrhyw wirfoddolwyr sy’n dymuno cymryd rhan gyfarfod ym maes parcio Ponderosa am 10.30am.

Bydd y digwyddiad yn dod i ben am 2.30pm ond bydd y trefnwyr yn ddiolchgar i wirfoddolwyr am unrhyw amser y gallant ei sbario i helpu gyda’r clirio.

Fe ddarperir yr offer i gyd (menig, ffyn pigo sbwriel a bagiau bin).  Bydd caffi’r Ponderosa’n rhoi lluniaeth ysgafn am ddim i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y clirio.

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych