06/22/2009 - Sir Ddinbych yn chwifio’r faner ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog
Fe ymunodd Cadeirydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Joan Butterfield ag Arglwydd Raglaw Clwyd, Trefor Jones a chynrychiolwyr y lluoedd arfog i farcio sefydlu Diwrnod y Lluoedd Arfog dydd Llun.
Fe godwyd baneri’n gydamserol ar draws y wlad am 10.30am dydd Llun ac fe fyddant yn chwifio tan Fehefin 29. Codwyd dwy faner yn Sir Ddinbych, un Gymreig ac un Saesneg, yn Neuadd y Sir, Rhuthun.
Mae’r dathliad cenedlaethol hwn yn rhoi cyfle i’r genedl gyfan ddangos ei gwerthfawrogiad i gyfraniad pawb sy’n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu Lluoedd Arfog ei Mawrhydi.
Meddai’r Cynghorydd Butterfield: “Mae Sir Ddinbych yn falch o goffau Diwrnod y Lluoedd Arfog sy’n rhoi cyfle i ni i gyd adlewyrchu ar y dynion a’r merched dewr sy’n wynebu maes y frwydr er mwyn i ni allu dod â heddwch i’r rhannau hynny sy’n cael eu heffeithio gan ryfel.”

