Mae Teulu Ceri, teulu cyfryngau ‘rhithiol’ Sir Ddinbych a sefydlwyd i hyrwyddo cyrchiad i wasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir, wedi cael ei anrhydeddu â gwobr gofal cymdeithasol fawreddog.
Fe gyhoeddwyd y prosiect yn enillydd clir yng nghategori ‘Ymglymiad Cymunedol’ yn y gwobrwyon Gofal Cymdeithasol, a gyhoeddwyd yn Neuadd y Sir Caerdydd dydd Gwener, Mehefin 19.
Mae aelodau Teulu Ceri’n amrywio o 2 oed i 81 oed ac maent yn adlewyrchu materion gofal cymdeithasol gwirioneddol yn Sir Ddinbych. Fe ddatblygwyd y cysyniad yn wreiddiol i’r cyngor ymgysylltu â phobl a gofyn iddyn nhw am eu barn fel rhan o Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ‘Sir Ddinbych Iach’ 2008-11. Y bwriad oedd rhoi bywyd i’r strategaeth, yn enwedig ar gyfer y grwpiau hynny a nodwyd yn rhai anodd eu cyrraedd.
Cafodd menter arall, Prosiect Gweithiwr Cynnal Gofal Cymdeithasol, gymeradwyaeth uchel yng nghategori ‘Dysgu Gyda’n Gilydd’ yn yr un gwobrau.
Fe ddatblygwyd Prosiect Gweithiwr Cynnal Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn ymateb i weledigaeth Sir Ddinbych am weithwyr cynnal wedi eu lleoli yn y gymuned sy’n gallu cefnogi pobl sydd ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r gweithwyr wedi eu hyfforddi i ddarparu cefnogaeth gynhwysfawr ar gyfer anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y gweithwyr cynnal yn darparu’r gefnogaeth yma mewn ffordd sy’n hyrwyddo annibyniaeth pobl.
Meddai’r Cynghorydd Pauline Dobb, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd a Lles: “Rwy’n wirioneddol falch bod Sir Ddinbych wedi ei chydnabod yn y Gwobrau Gofal Cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i’r holl staff a fu ynghlwm â’r ddau brosiect am eu brwdfrydedd, eu hymroddiad a’u sgil yn bwrw ein gwasanaethau ymlaen.
“Mae’r gwobrau hyn yn bluen yn het y timau sy’n gweithio’n ddiflino i wella gwasanaethau ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.”
I gyrchu rhagor o wybodaeth am Deulu Ceri, ewch i: www.healthydenbighshire.co.uk

