| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
06/25/2009 - Sir Ddinbych yn hysbysu preswylwyr o gau ffyrdd

Er mwyn cynnal diogelwch y cyhoedd yn ystod digwyddiad aduniad Facebook a gynlluniwyd yng nghanol tref Y Rhyl ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 11, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn cau’r ffyrdd canlynol rhwng 6pm a 6am y bore canlynol.

Y ffyrdd sydd i’w cau yw:                

1)  Stryd y Dŵr, o’i chyffordd â Ffordd Cilgant i’w chyffordd â Ffordd Wellington.

2) Stryd Sussex Street, o’i chyffordd â Stryd y Frenhines i’w chyffordd â Stryd y Dŵr.

3) Stryd Bedford, o’i chyffordd â Stryd Vaughan i’w chyffordd â Stryd y Dŵr.

Caiff y gorchymyn un ffordd ar Stryd Bedford ei atal yn ystod cyfnod y cau i ganiatáu mynediad i breswylwyr a thacsis yn unig, o’i chyffordd â Stryd Vaughan.  

Mae ffyrdd gwahanol ar gael drwy Ffordd Cilgant, Stryd Vaughan, Ffordd Wellington a Stryd y Frenhines.  

 Lyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych